Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn nes i'r nefoedd wrth edrych arno. Yr oedd o bob amser yn gosod mawredd ar y gwirionedd—yn odds felly.

" 'Rwy'n cofio'n dda ei glywed yn pregethu ar yr adnod ola yn y bymthegfed benod o'r Corinthiaid,—'Am hyny, fy mrodyr anwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.' 'Roeddwn i'n meddwl bob amser, cyn hyny, mai adnod i ddweyd ar gasgliad oedd hon, Ond dear me, fel yr oedd Mr. Edwards yn ei chymeryd i brofi athrawiaeth fawr yr adgyfodiad, ac fel yr oedd yn dangos y fath fawredd, a'r fath sicrwydd am yr Adgyfodiad. Byddwch sicr,' ' byddwch sicr,' sicr yn eich meddyliau y bydd i Dduw gyflawni ei air—y bydd iddo gyfodi y meirw fel y dywedodd. " A diymod.' 'Rwy'n cofio'n dda ei fod yn dweyd gair Saesneg yn y fan yma, " a chyfodai ei fraich yn hollol fel y gwpelai Dr. Edwards pan fyddai wedi ei gynhyrfu, a dywedodd y gair y tro hwnw mor dda a phe buasai yn Sais dan gamp,—" 'and unmoveable. Yr oeddwn i yn meddwl bob amser cyn hyny mai adnod i ddweyd ar gasgliad oedd hon, ond mi newidiais fy meddwl am dani byth wed’yn." A thra yr eisteddai i lawr, aeth si o gymeradwyaeth trwy'r holl gynulleidfa fawr yn Moriah.

YN TALU DIOLCHGARWCH MEWN CYMANFA YSGOLION

Llawer tro y clywodd ei gyfeillion yn Ngorllewin Meirionydd ef yn gwneuthur sylwadau brwdfrydig, nes gwefreiddio y cyfarfodydd o ben bwy gilydd. Ar ddiwedd Cymanfa Ysgolion yn Llanegryn, Llun y Sulgwyn, 1887, yr hon a gynhelid yn yr awyr agored—byddai y Gymanfa Ysgolion y blynyddoedd hyny yn rhy liosog i'r un capel allu ei chynal—talai ef ddiolchgarwch i bobl y lle am eu croesaw i'r Gymanfa, a chan gymeryd benthyg geiriau John Evans, New Inn, ar ddiwedd