Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn votio bob amser. Yr oedd yno ryw Pitt yn y Senedd, ac yr oedd ei fraich fel pe buasai wedi ei chlymu wrth fraich hwnw. Os byddai braich Pitt i fyny, fe fyddai ei fraich yntau i fyny. Felly yr wyf finau yn cydsynio â phob peth da a dylem ymegnio at wneyd y pethau yma hefyd. Mae eisiau i ni gael trefn ar bethau, fel yr oedd y brodyr yma yn dweyd, a 'does dim yn bosibl gweithio heb drefn. Y mae gan y masnachwyr eu trefniadau, ac y mae gan y wladwriaeth ei threfniadau. Ac y mae eisiau i ni weithio, oblegid mae ein hamser ni yn beryglus iawn. Mae yma dywyllwch eisiau ei symud. Gwaith yr un drwg ydyw cadw y tywyllwch ar feddwl y bobl, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig. Nid yw efe yn credu mewn syrthio oddiwrth ras,—y mae yr un farn a'r Methodistiaid Calfinaidd ar y pwnc hwn,—a'i waith ef ydyw cadw y tywyllwch yma ar y wlad. Yr efengyl sydd yn gwneyd trefn ar y byd. Yr wyf yn cofio darllen yn nhraethawd y diweddar John Owen, Ty'nllwyn, mai lle mae'r efengyl wedi enill mwyaf o ddylanwad ar y wlad, yno y mae amaethyddiaeth uwchaf. Yr oedd ef yn dweyd mai yn Môn yr oedd amaethyddiaeth oreu, ac yn Môn yr oedd crefydd uwchaf. Yn Maesyfed yr oedd crefydd iselaf, ac yno yr oedd yr amaethwyr gwaelaf. Chwi wyddoch nad oes dim trefn ar wneyd peth heb drefn (chwerthin). Mae eisiau i ni wneyd pob peth gyda chrefydd fel pe byddai y llwyddiant oll yn dibynu ar ein trefniadau ni. Ond wedi gwneyd pob peth, dylem deimlo nad oes dim gwerth ar drefniadau ynddynt eu hunain. Bendithio trefn y mae yr Ysbryd Glan. Clywais am Ishmael Jones yn dyfod i bregethu i Dowyn, ac yn codi penau ar ei bregeth am y tro cyntaf. Yr oedd yr hen wr wedi clywed fod pregethwyr ieuainc yn dechreu codi penau, ac yr oedd yntau wedi penderfynu gwneyd yr un fath. Wedi dechreu pregethu, dywedai, "Mae pobl yn myned i son y dyddiau yma am wneyd pethau mewn trefn, ac yn dweyd, yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd. Yr wyf finau