Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi penderfynu cymeryd y plan yna gyda chwithau heddyw. Yr wyf am godi penau, ond gyfeillion bach, gwell genyf eu colli nhw i gyd na cholli yr Ysbryd Glan. Felly y dylem ninau arfer moddion, ond gadael i Dduw weithio fel y myno Efe. "Bydded genych ffydd yn Nuw." Mae eisiau i ni gredu gwirioneddau mawr Duw. Fel y dywedodd Paul wrth geidwad y carchar, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu." Fel yr oedd Dafydd Dafis o Gowarch, yn dweyd, "Dyna y drecsiwn i ti." Pan y byddaf fi yn clywed am y llyfrau yma, ac amheuon dynion, fe fyddaf yn gallu dweyd fy mod yn gwybod am beth felly o'r blaen, oblegid y mae holl ddrygioni y byd yma yn nghalon dyn. Rhaid i ni beidio ameu addewidion Duw, a pheidio bod fel y bobl hyny y mae Zechariah yn sôn am danynt, yn ameu pob peth a ddywedai Duw wrthynt. Mae Duw yn gofyn iddynt gredu ei wirionedd Ef. Yr oeddwn wedi meddwl darllen i chwi ychydig o adnodau eto,— "Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: hen wyr a hen wragedd a drignnt eto yn heolydd Jerusalem, a phob gwr a'i ffon yn ei law, oherwydd amlder dyddiau,"—nid o falchder. Mae eisiau i ni gredu fel yr hen chwaer hono yn Merthyr Tydfil, Modryb Beti'r Methodist fyddent yn ei galw. Yr oedd rhyw ddyn yn methu deall pa fodd i gredu y byddai i'r planedau syrthio i'r ddaear fel ffigys, ac un o honynt yn llawer mwy na'r ddaear. "Pe buasai fy Nuw i yn dweyd y buasent yn myned i wniadur," meddai yr hen wraig, "fe fuaswn yn ei gredu." —Allan o Adroddiad Cynhadledd y Canmlwyddiant.

Mae yr enghreifftiau uchod yn ddangosiad o'i ddull ef o siarad ac ysgrifenu. Ac y maent yn werthfawr oblegid hyny, yn gystal ag ar gyfrif y personau a'r amgylchiadau y gwneir cyfeiriadau atynt.