Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyddol yn y nefoedd,"—ei symud i blith pendefigion pobl Dduw, lle mae llawenydd a digrifwch yn dragywydd, "

A llewyrch mwy tanbaid na'r haulwen,
Sef llewyrch o orsedd fy Nuw."

Y mae penod olaf ei fywyd mor llawn o ddyddordeb a dim sydd wedi ei adrodd am dano. A llawer o ddynion rhagorol y ddaear o'r byd heb i neb o'u cyd ddynion gael gwybod fawr ddim o hanes y symudiad diweddaf. Slipiant i'r Orphwysfa yn ddystaw, gan adael i'w bywyd dystiolaethu i ba wlad yr aethant. Er hyny, y mae argyhoeddiad yn meddwl pawb ddarfod iddynt etifeddu yr etifeddiaeth yn y goleuni. O'r tu arall, ceir ambell i rai, megis, Mr. Charles o'r Bala, Mr. Foulkes-Jones, Machynlleth, a Dr. Saunders, a roddasant dystiolaeth neillduol yn y diwedd mai i wlad yr addewid yr oeddynt yn myned, ac wrth groesi iddi torasant yr enaint gwerthfawr, yr hwn sydd o hyd yn parhau i berarogli yn y byd. Un o'r cyfryw rai oedd David Rowland. Gadawodd dystiolaeth yn niwedd ei ddyddiau, yn gystal ag ar hyd ei fywyd, ei fod yn un o blant Duw, a dywedodd amryw o bethau pan ar groesi i'w gartref fry, a gofir cyhyd ag y bydd y côf am dano yn aros ymysg ei gyd-ddynion.

Er ei fod yn tynu at bedwar ugain a thair mlwydd oed, yr oedd o ran ei ysbryd mor hoew a bachgen deng mlwydd. Ac ni buasid yn gwybod ei fod yn nesau at ddiwedd ei oes, oni bai fod y babell bridd yn dechreu adfeilio. Y flwyddyn y cyrhaeddodd ei 80ain, gwnaeth rai sylwadau tebyg iawn iddo ei hun. Yr oedd yn amlwg ei fod yn ol cyfarwyddyd y weddi Ysgrythyrol yn dysgu cyfrif ei ddyddiau. Un diwrnod yn ystod y flwyddyn y cyrhaeddodd 80 oed, clywyd ef yn dywedyd, "Dear me, yr ydwyf yn fab pedwar ugain mlwydd oed." Ddiwrnod arall dywedai, " 'Rwy'n meddwl yn sicr fod cam-