Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd ef ran yn y cyfarfod hwn, oherwydd ei fod yn llesg, ac hefyd am nad oedd yn drethdalwr yn mhlwyf Towyn. Ond yr oedd mor bleidiol a neb i'r ysgol y bu Ymneillduwyr Aberdyfi mor ymdrechgar a llwyddianus yn ei sefydlu. Ni fu ond rhyw dair wythnos yn ei wely, ac heb fod yn y capel. Fel pawb, disgwyliai ar y cyntaf y cai wella. Ond ymhen ychydig ddyddiau daeth yn hollol ymostyngar i ewyllys ei Dad nefol, a dywedai wedi hyny mai unwaith yn unig y bu yn gweddio am gael mendio. Yr unig beth y teimlai betrusder yn ei gylch ydoedd dieithrwch y nefoedd. Yr oedd wedi meddwl llawer am ddywediad Thomas Roberts, hen ddriver John Elias, yr hwn a ddywedai ychydig cyn marw, mai Mr. Elias a hoffai ef weled gyntaf wedi myned i'r nefoedd, gan ei fod yn meddwl y byddai yn fwy hyf ar Mr. Elias nag ar yr Arglwydd Iesu. Mewn trefn i ddeall y cyfeiriad hwn, dylid hysbysu fod yr hen bererin hwn yn Gristion o radd uchel, ac mai yn ardal Pennal y diweddodd ei ddyddiau. Brodor o Landderfel, yn agos i'r Bala ydoedd. Bu yn was gyda Mr. Davies, Fronheulog, am 52 mlynedd. Deuai John Elias, o Fôn, prif bregethwr Cymru, yn fynych i aros i'r Fronheulog, a rhoddai Mr. Davies ei gerbyd iddo i deithio siroedd De a Gogledd Cymru, a Thomas Roberts fyddai yn gyru y cerbyd. Yr oedd ef yn was yn Fronheulog pan gyfarfyddodd Mr. Elias â'r ddamwain ar fore Sasiwn y Bala, ond ymffrostiai yr hen frawd mai nid efe oedd yn gyru y cerbyd y diwrnod hwnw. Efe fu yn ei anfon adrefi sir Fon wedi iddo wella. Pan y deuai Mr. Elias i Fronheulog byth wedi hyny, arferai anfon gair o'i flaen, " Anfonwch Tomos i'm cyfarfod gyda cheffyl llonydd," Ymffrostiai Thomas Roberts yn ei swydd o fod yn ddriver i John Elias. Yr oedd y gweinidog enwog a'r driver mor gyfeillgar a dau gyfaill, a chredai Thomas Roberts nad oedd neb tebyg i Mr. Elias yn yr holl fyd. Yn ol ei syniad ef ni bu dim ond dau yn y byd