Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydynrwydd. Ofnid y buasai clywed y newydd hwn yn peri tristwch iddo, oblegid yr oeddynt yn gyfeillion mawr, ac yr oedd newydd dderbyn llythyr oddiwrth Dr. Hughes, ychydig ddyddiau cyn myned i'w wely, yn yr hwn yr addawai ddyfod i Bennal i bregethu, ar noson waith, ganol mis Tachwedd, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Aberdyfi. Mewn ffordd o dori y newydd trist hwn iddo, dywedwyd yn hamddenol fod rhyw rai o hyd yn myn'd i'r nefoedd, a bod y newydd wedi cyrhaedd am un ychwaneg wedi myn'd yno. "Oeddwn i yn ei 'nabod o?" gofynai. "Oeddych yn dda iawn—Dr. Hughes, Caernarfon!" "Dr. Hughes wedi marw!" meddai, "Dear, dear, dear; wel, mae'r byd yma yn llawer iawn gwacach, ac mae'r nefoedd yn llawer iawn llawnach. Y nefoedd pia hi; ïe, yn wirionedd ina', y nefoedd pia hi o ddigon!" Cyn i'r ymddiddan hwn ddarfod daeth Mrs. Rowland i mewn i'r ystafell, ac meddai ef wrthi, "Dyna un eto wedi myn'd; mae'n haws myn'd i ffwrdd, Mari; good news;" a throai wedi hyn at y pared. Tynai lawer o gysur o hyny i'r diwedd odiwrth y ffaith, nid yn unig ei fod yn cael myned i'r nefoedd at Dr. Hughes, ond ei fod yn cael myned yno megis yn ei gwmni. Dywedai wrth y wraig garedig oedd yn gwylio wrth erchwyn ei wely, " Pe buasech chwi yn newid dwy wlad; yn symud i America (yr oedd y wraig wedi bod yn America), ac yn cyfarfod yno â hen gyfeillion, a rhai oeddych yn eu hadnabod yn dda, oni fuasech yn llawen eu gweled!

Ond wrth fyn'd yno, erbyn cyrhaedd i Liverpool, pe buasech yn cyfarfod â hen ffrindiau ar y Landing Stage yn cychwyn i America, oni fuasech yn falch iawni o'u cwmpeini ar hyd y ffordd?" Yn debyg i hyn, teimlai yntau ei fod yn cael myned i'r nefoedd megis yn nghwmni Dr. Hughes. A chwmni iawn oeddynt i fyned gyda'u gilydd ar daith mor bell.

Congestion of the Lungs oedd ei afiechyd. Ni alwyd arno i ddioddef rhyw lawer, oddieithr pyliau o ddiffyg anadl ar brydiau. Wrth weled ei afiechyd yn myned yn 'fwy peryglus,