Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olaf, "Mae angau wedi dyfod, ond mae wedi dyfod heb ei golyn." Ni wiriwyd y geiriau hyny yn fwy yn hanes neb erioed nag yn ei hanes ef.-"Ni frysia yr hwn a gredo." Pennillion a roddodd lawer o gysur iddo yn ei gystudd oeddynt y rhai canlynol, ac wrth eu canu a'u myfyrio y cefnodd ar y byd hwn:—

Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th gynteddau ca'i dd'od,
Lle na fydd cyn'lleidfa yn ysgar,
Na diwedd i'r Sabboth yn bod ?
Dedwyddwch digymysg sydd yno,
Ni phrofwyd yn Eden mo'i ryw,
A llewyrch mwy tanbaid na'r haulwen,
Sef llewyrch o orsedd fy Nuw.

Mae yno gantorion ardderchog,
A'u Ceidwad yw sylwedd eu sain;
A'm brodyr sydd yma gant esgyn
Yn fuan i ganol y rhai'n ;
O ! Salem, fy nghartref anwylaf,
I'th fewn mae fy enaid a'm dd'od
Ac yno fy llafur a dderfydd
Mewn cân orfoleddus a chlod.

Canwyd y geiriau hyn yn ei angladd gyda nerth a theimlad anghyffredin.

Diwrnod mawr yn Mhennal oedd dydd ei gladdedigaeth, sef dydd Gwener, Tachwedd 10fed, 1893. Yr oedd wedi rhoddi gorchymyn penodol am gael ei gladdu o dan y drefn newydd. Nid peth bach oedd hyn yn Mhennal, oblegid ni chawsid neb o'i flaen ef yn ddigon gwrol i roddi y gorchymyn hwn, a lwyddid ryw fodd neu gilydd i ddychrynu y trigolion rhag