Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COFIANT DAFYDD ROLANT

——————♦——————

PENOD I.

EI DEULU.

Desgrifiad o ardal Pennal—Y teulu yn adnabyddus cyn cof —Cof—golofn Dafydd Rolant—Ei Adroddiad ei hun am ei haniad Dr. Pugh y Cunger—Dylanwad dywedyd tesni—Hugh Rolant yn heliwr Achau—Ffraethineb ei Atebion—Ei sylw pan ddewiswyd ei fab yn flaenor—Hugh Rolant yn dyfod yn Ddirwestwr—Ei brofiad fel Dirwestwr, a'i Araeth ar Ddirwest—Hugh Rolant yn ymladdwr Ceiliogod—Darluniad Dafydd Rolant o "Gocyn ceiliogod"—Spardynau y Ceiliogod.

 AN yn sefyll yn nrws ty Llwynteg, cartref gwrthddrych y Cofiant hwn, gwelir ar un olwg dair o Siroedd Cymru, Meirionydd, Aberteifi, a Threfaldwyn. Cyferfydd y tair sir wrth ymyl Glandyfi Junction, dwy filldir o bellder o bentref Pennal. I bwy bynag nad yw yn gwybod eisoes, bydded hysbys mai ardal ydyw Pennal ar gwr eithaf Sir Feirionydd, yn wynebu y Deheudir. Os edrychir ar y llaw chwith o gerbydau y Rheilffordd, wrth deithio i fyny o