Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Awst, 1895, gosodwyd ar ei fedd yn Mynwent Newydd Pennal, Gof-golofn brydferth, o farmor gwyn, un troedfedd ar ddeg o uchder. Ac mae yn gerfiedig ar y golofn y geiriau a ganlyn:

COFFADWRIAETH

AM

DAVID ROWLAND

Llwynteg, Plwy Pennal.

Ganwyd Mai 12, 1811.

Bu farw Tachwedd 7, 1893

Blaenor yn Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd, Pennal, o

1850 i 1893.

——————

"Gwr da, duwiol, hynaws, haelionus, ffraeth, ffyddiog."

Preswyliai ei hynafiaid yn Mhennal er cyn côf, ac yr oeddynt yn bobl liosog a hynod, hil hepil. Enillasant hynodrwydd nid yn mhethau goreu y ddau fyd, fel y gwnaeth yr hwn yr ysgrifenir ei hanes yn y tudalenau hyn, ond pawb yn ol eu ffordd. Hynodrwydd yn nghyfri y byd presenol oedd yr eiddynt hwy. Rhydd Dafydd Rolant, mewn paragraph neu ddau a ysgrifenwyd ganddo rywbryd, gip-olwg ar ei haniad, yn ei ddull a'i eiriau ei hun.—

"F'y rhieni oeddynt Hugh Rowland, a Jane Davies ei wraig. Magwyd fy nhad yn y Felinganol, Pennal, a'm mam yn y Cwrt, pentref cyfagos—Joiners oedd teulu fy nhad, ac yn cadw melin. Bu y teulu yn y Felinganol am oesoedd (byddai fy nhad yn dweyd na allasai neb ddweyd yn amgen nad oeddynt yno er Adda). Yr oedd un peth wedi eu gwneuthur yn hynod