Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ddim amgen na quack doctor. Adnabyddid ef trwy y cylchoedd o amgylch fel cunger llwyddianus, a byddai cyrchu mawr ato am feddyginiaeth i'r corff a'r meddwl, ac ato ef yr elid am gyfarwyddid os byddai unrhyw anhwyldeb ar anifail, neu anhap wedi digwydd i eiddo a meddianau. Rhoddai yntau iddynt ryw bapuryn a llythyrenau arno fel moddion anffaeledig rhag pob anhwyldeb, a chlwy, ac anhap. Byddai ganddo nifer o bobl loerig ac anmhwyllus yn eu cadw o dan ei ofal, rhai yn ei dŷ ei hun, a rhai yn nhai y cymydogion. Adroddir am un oedd yn byw yn Cefnrhos, uwchlaw Aberdyfi, yn myn'd a'i fam ato, yr hon oedd yn ngafael rhyw afiechyd nad oedd yn gwella o hono, a dywedai y dyn wrth fyn'd a hi at y cunger,— "'Dydyw yr ysbryd drwg yn gwybod dim am dani, a chymer Duw mo honi; ac yr wyf yn myn'd a hi at Dr. Pugh, i Bennal, i edrych a all ef wneyd rhywbeth o honi." Deuent ato fel hyn o filldiroedd o ffordd. Ond cael eu twyllo yr oedd y bobl druain gan y quack doctor.

"O ble mae'r bobl yn d'od yma?" gofynai Hugh Rolant iddo un tro, "Wedi eu witchio y maent?"

"Huwcyn bach," ebe yntau, "nid oes dim o'r fath beth a witchio mewn bod."

"I beth ynte yr ydych yn eu twyllo?"

"Y nhw sydd yn dyfod ataf fi, y ffyliaid, fe ânt at ryw un arall os na rof fi beth iddynt."

Cafodd Hugh Rolant wybod llawer gan ei gymydog a breswyliai dan yr un tô ag ef, am y grefft o ddywedyd tesni (ffortiwn). Yr oedd y Dr. Pugh hwn yn elyniaethus iawn i grefydd, ac yn un o erlidwyr penaf y wlad.

Nid oedd Hugh Rolant yn credu mewn dywedyd tesni. Yn hytrach fel arall, wedi deall dirgelion y grefft, gyrwyd ef i'r eithafion pellaf oddiwrthi. Yr oedd cymdeithas Dr. Pugh, modd bynag, wedi ei wneuthur yn lled elyniaethus tuag at yr Ymneillduwyr. Eglwyswr oedd ef, ac felly y parhaodd hyd