Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiwedd ei oes. Nid aeth ei hanes ef ddim yn angho, fel eiddo ei dadau a'i deidiau. Y mae lliaws o'r ardalwyr eto yn ei gofio, a chofiant ei ddywediadau parod a phert, a'i droion direidus, yn nghyda'i chwedlau difyr am bobl a phethau. Dywed amryw hefyd ei fod llawn mor alluog dyn a'i fab, Dafydd Rolant, a phe buasai wedi cymeryd y cyfeiriad a gymerodd ei fab, buasai yn debyg o ragori arno mewn ffraethineb a pharodrwydd ymadrodd. Adnabyddai ef drigolion y cyffiniau yn dda odiaeth, medrai adrodd hanes pawb, nid yn unig yn ei oes ei hun, ond yn yr oes, os nad yr oesau o flaen ei oes ei hun. Nid oedd mo'i debyg am wybod achau teuluoedd. Edrychid arno yn gymaint felly, nes yr oedd wedi myn'd yn ddihareb yn yr ardal am unrhyw un a fedrai olrhain cysylltiadau teuluol, ei fod cystal am hel achau â Hugh Rolant y teiliwr.

Dywedai Dafydd Rolant yn fynych am ei dad, mai un da iawn ydoedd am adrodd stori. Byddai llawer un yn ei gwmni yn dywedyd wrtho, "Adroddwch stori, Hugh Rolant." Ond ni wnai mo hyny pan ofynid felly iddo. Bydd stori, pan yr etyb y pwrpas, yn dyfod yn naturiol yn nghwrs yr ymddiddan. "Wedi dechreu eu dweyd," meddai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, "byddant yn galw eu gilydd." Yr oedd gan Hugh Rolant stôr o ystraeon. Heblaw hyny, yr oedd yn un dan gamp fel adroddwr, ac yn adroddiad stori y mae llawer o'i hyawdledd yn gynwysedig. Elai beunydd yn rhinwedd ei alwedigaeth ar hyd tai y wlad i weithio, ac adroddodd ganoedd o straeon tra ar ben y bwrdd yn pwytho.

Peth arall a'i gwnaeth yn gofiadwy yn nghôf ei gyd-oeswyr oedd, ei ffraethineb, ynghyd a pharodrwydd a phertrwydd ei sylwadau. Pan oedd yr Hybarch Richard Humphreys yn byw yn y gymydogaeth treuliai lawer o amser yn nhy David Rowland, lle yr oedd yn hynod o gartrefol. Un boreu, eisteddai Hugh Rolant, yn hen wr wrth y tân, wedi gwisgo ei esgidiau, ond heb gau eu careiau; ac ebe Mr. Humphreys, yr hwn a