Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

seiat brofiad gyda'r dirwestwyr, i roddi cyfle i bawb ddweyd en profiad, a phrofiad rhyfedd a geid gan lawer fuasent gynt yn feddwon cyhoeddus. Ar ol bod yn gofyn profiad hwn a'r llall yn y seiat, daeth Mr. Pritchard at Hugh Rolant i ofyn ei brofiad yntau.

"Wel," fe fuoch chwithau, Hugh Rolant, yn cael eich trin yn arw gan y ddiod?"

"Do."

"Fe fuoch chwithau yn feddw lawer gwaith?"

"Do, laweroedd o weithiau; ochr y ffos fu fy ngwely ddengwaith, a rhyw ddraenen yn hono fy ngobenydd. Nis gallaf gyffelybu teulu y dafarn i ddim gwell na fel y bydd y gwragedd gyda'r ieir. Pan fydd yr iar yn myn'd i ddodwy, mae gwraig y ty yn ei denu, yn tawlu tamaid o fara o'i blaen, nes ei chael i'r nyth i ddodwy. Gyda'i bod wedi dodwy, ac yn dechreu clochdan, 'blant,' ebe gwraig y ty, 'heliwch yr iar yma allan, yn lle ei bod yn clochdan ac yn gwneyd sŵn dros y ty— allan mae ei lle hi. Felly maent yn y dafarn, unwaith y cant arian dyn, allan a fo wed'yn."

Ond hynodrwydd mawr Hugh Rolant oedd ei fod yn ymladdwr ceiliogod di-ail. Adnabyddid ef yn mhell ac yn agos fel y blaenaf ŵr yn myd y chwareuwyr. Efe oedd pen-campwr yr holl wlad. Cadwai ffermdai y wlad bawb ei geiliog iddo, fel y cadwant fytheiad i'w meistr tir, a byddai yntau yn drillio y rhai hyn ar gyfer yr ymladdfeydd a gynhelid yn gyffredin yn y Gwanwyn. Mor ddwfn oedd ei ymlyniad wrth yr hen arferiad greulon, ac mor fanwl ei adnabyddiaeth o natur y creaduriaid pluog ymladdgar, fel y gallai wahaniaethu rhwng eu lleisiau pan glywai geiliogod cyrau pellaf yr ardal yn canu. A phan yn hen wr wrth ei ddwy ffon, edrychai ar dwr o gywion ieir yn yr ardd, a sibrydai wrtho ei hun, re'l game cock. Gwelodd David Rowland lawer o'r chwareuon hyn yn ei fachgendod, ac adroddai iddo fod unwaith pan yn laslanc yn cario