Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dau geiliog ar ei gefn, dros y mynydd o Bennal i Abergynolwyn, lle yr oedd "cocyn ceiliogod" (cock match) enwog i gael ei gynal ar ddydd Llun y Pasg. Yr oedd Abergynolwyn yn ganolbwynt y wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon, i'r lle y cyrchai holl drigolion yr ardaloedd—tlodion a boneddigion—i weled yr ornest rhwng y creaduriaid direswm. "Yr wyf yn cofio yn dda," ebe D. Rowland, "weled o ben y mynydd y diwrnod hwnw, y llwybrau yn dduon o bobl o Fachynlleth a'r amgylchoedd, yn cyrchu i'r cock match." Yr oedd gan Hugh Rolant arfau pwrpasol, spardynau gyda phigau llymion o ddur, y rhai a rwymid am goesau y ceiliogod a osodid i ymladd. Cedwir y rhai hyn yn ofalus yn Llwynteg, fel hen relic o'r amser gynt.

Hyd ddiwedd chwarter cyntaf y ganrif bresenol, y chwareuon hyn fyddai prif gyrchle pobloedd y wlad. Ni byddai yr un dydd gwyl yn pasio, yn enwedig y Nadolig, a'r Groglith, a Llun y Pasg, heb fod Cocyn Ceiliogod naill ai yn Machynlleth, neu Benegoes, neu yr Eglwys Fach, neu Bennal, neu Abergynolwyn; a mawr y miri a'r mwrwst a'i dilynent. O'r diwedd, darfyddodd yr hen arferiad wrthun, yn debyg i ymadawiad y Gog ganol haf, nad oes neb ŵyr pryd y canodd ddiweddaf, na'r dydd o'r mis yr ymadawodd i'w gwlad ei hun.

Bu Hugh Rolant farw Tachwedd 15fed, 1859, yn 84 mlwydd oed. Ni bu ganddo o blant heblaw gwrthddrych y Cofiant, ond dwy ferch,—Mary, yr hon a fu farw yn ddibriod Awst 9fed, 1851; a Jane, yr hon a fu yn briod ddwywaith, ac a fu farw yn y Deheudir, tuag ugain mlynedd yn ol.