Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD II.

BOREU OES.

CYNWYSIAD—Amser a lle ei enedigaeth—Ei alwedigaeth—Lewis William, Ysgolfeistr yr Ysgolion Rhad Cylchynol—Dilyn ei alwedigaeth yn ol dull yr oes—Y bai yn cael ei roi ar y teilwriaid—Yr hwch fagu yn y ty—Tro yn yr uwd—Y teilwriaid yn bobl barablus—Yn dechreu cadw siop—Achos crefydd yn Mhennal yn more ei oes—Enill gwobr yn yr Ysgol Sul—Yn llechu yn ngweithdy Arthur Evan y blaenor ar fellt a tharanau.

 AE pawb sydd yn hyddysg yn hanes y Methodistiaid yn gwybod mai yn y flwyddyn 1811 yr ordeiniwyd y gweinidogion cyntaf perthynol i'r Cyfundeb. A chyfrifa rhai ddechreuad oedran y Cyfundeb o'r amgylchiad pwysig hwuw, tra mewn gwirionedd yr oedd wedi cychwyn yn ei nerth bymtheng mlynedd a thri ugain yn flaenorol. Ar y 12fed dydd o fis Mai y flwyddyn hono y gwelodd Dafydd Rolant gyntaf oleuni dydd. Clywyd ef aml i waith mewn cwmni yn gwneuthur yn hysbys ei oedran ei hun ac oedran ei wraig, ar ddull damhegol. "Nid yw yn rhyfedd fy mod i yn selog (gyda chrefydd), yr wyf yr un oed a'r Methodistiaid, ganwyd fi y flwyddyn yr ordeiniwyd gweinidogion cyntaf y Methodistiaid—1811." Gwnaeth y sylw hwn rai gweithiau mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Mewn cylchoedd cartrefol, sylw chwareus arall o'i eiddo mewn cysylltiad a hyn ydoedd, "Am Mari yma, mae hi wedi ei geni ar flwyddyn Brwydr Fawr