Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Waterloo,—nid yw yn rhyfedd fod tipyn o ryfel yn perthyn iddi hi."

Hwyrach fod ei dymer ysgafn a hafaidd i'w briodoli i'r ffaith ei fod wedi ei eni yn mis Mai. Heulwen haf, modd bynag, o ran ei dymer a'i ysbryd, a fu ei fywyd o ddydd ei eni hyd y dydd yr ymadawodd â'r byd. Symudodd gyda'i dad o Llwynteg—y ty lle ganwyd ef—pan yn 14eg oed i dy cyfagos, a bu yn trigianu mewn pedwar o dai yn y pentref, oll o fewn ergyd careg i'w gilydd. A dyna y cwbl o symudiadau ei fywyd. Dychwelodd yn ol i'w hen gartref cyntefig, gan dreulio yno y tair blynedd ar ddeg olaf mewn hapusrwydd mawr. A'r hyn sydd yn lled hynod ydyw, mai o'r anedd hon y ganwyd ef ynddi, yr aeth i'r nefoedd, ar y 7fed dydd o Dachwedd, 1893.

Nid llawer o helyntion bore ei fywyd sydd yn wybyddus, heblaw yr hanesion am dano yn gweithio ei grefft gyda'i dad. Disgynai rhai sylwadau o'i enau ef ei hun, mae'n wir, yn awr ac eilwaith, a daflent oleuni ar amgylchiadau teuluol, ac amgylchiadau y gymydogaeth flynyddoedd pell yn ol. Ysgrifenodd ychydig ychydig iawn hefyd—o ryw grybwyllion am dano ei hun, nid mewn dim trefn, ond blith drafflith, weithiau mewn hen lyfr siop, pryd arall ar ddalenau bychain gwasgaredig. Dywed yn un o'r papyrau hyn:—

"Dilledydd wrth ei alwedigaeth oedd fy nhad, a dygwyd finau i fyny yn yr un alwedigaeth. Bum 55 o flynyddoedd mewn cysylltiad a'r alwedigaeth, ac am dros 40 mlynedd o'r tymor yna yn cadw siop, draper a grocer, ac yn cadw dynion i wnio."

Genedigol o bentref bychan y Cwrt, o fewn llai na milldir i bentref Pennal, oedd ei fam. Jane Davies wrth ei henw morwynol, merch, fel y gwelwyd, i William Davies, y gôf. Yr oedd hi yn rhyw gymaint o berthynas i'r hynod Barchedig Lewis William, Llanfachreth. Crybwyllodd Dafydd Rolant lawer gwaith, ei fod yn cofio Lewis William yn dyfod i'w ty ar