Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr achlysur o farwolaeth ei fam, a phwys o ganwyllau yn ei law yn rhodd i'r teulu, pan nad oedd ef ei hun ond naw oed. Yr oedd Lewis William yn yr ardal ar y pryd yn cadw ysgol ddyddiol, un o'r Ysgolion Rhad Cylchynol a gychwynwyd gan Mr. Charles, o'r Bala. Bu ei fam farw fel y gwelir oddiwrth y gareg fedd yn hen Fynwent Pennal, Medi 18, 1820.

Dilyn ei alwedigaeth gyda'i dad y bu Dafydd Rolant trwy ystod blynyddoedd boreuddydd ei oes, Nid oedd pris yn cael ei roddi ar ysgol ddyddiol i blant y dyddiau hyny, ac anfynych yr oedd ysgolion i'w cael. Yr oedd yr Ysgol Rad Gylchynol wedi bod yn yr ardal rai gweithiau cyn marwolaeth ei fam, ond yr oedd ef yn rhy ieuanc i fyned iddi, ac nid oes hanes am dani yn cael ei chynal yma ar ol hyny. Byddai ysgol yn cael ei chynal ar brydiau yn Eglwys y Plwyf. Nid oedd yr un adeilad pwrpasol i gadw ysgol ddyddiol yn yr ardal, hyd nes yr adeiladwyd yr Ysgoldy Brytanaidd, yn y flwyddyn 1848, ar y lle y saif Ysgoldy prydferth y Bwrdd yn awr. Hyny o ysgol a gafodd gwrthddrych y Cofiant hwn, yr ysgol a gedwid yn Eglwys y Plwyf yn unig ydoedd. Yn ol meithder yr amser y bu yn dilyn ei alwedigaeth, yr hyn a rydd ef ei hun, rhaid ei fod wedi troi allan i ddechreu gweithio gyda'i dad pan oedd oddeutu 14eg oed. Yr arferiad gyffredinol y blynyddoedd gynt ydoedd, i bawb o'u galwedigaeth hwy, fyned i dai y plwyfolion i weithio y dillad a bwrcasid gan y teuluoedd. Ni freuddwydiai neb am gael dillad ready made, ac nid oedd yn unol âg arfer gwlad i neb fyned i siop y dilledydd i gael ei fesur am wisg newydd, ond byddai raid i'r dilledydd, os byddai eisiau dillad newyddion yn unrhyw dy, pell neu agos, fyned yno gyda'i linyn mesur, a'r sisswrn, a'r haiarn pressio. Ddydd ar ol dydd trwy hirfaith flynyddoedd, gwelwyd Hugh Rolant, y dilledydd, a'i ufudd fab, Deio, fel y galwai ei dad ef, yn cychwyn ben bore, weithiau filldiroedd o bellder, ac yn dychwelyd adref yn hwyr y nos, nid yn unig wedi gweithio diwrnod da o waith,