Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond wedi clywed ac adrodd llawer yn ystod y dydd o hanesion y cymydogion, a chwrs y byd yn gyffredinol. Gwyddent hanes helyntion holl deuluoedd y plwyf, o genhedlaeth i genhedlaeth. Elent lawer o ffordd i weithio hefyd tuallan i'w plwy eu hunain, i Blwy Towyn, a Phlwy Tal-y-llyn, i fyny trwy Gorris, a chyrion uwchaf Aberllyfeni. Y tebyg ydyw mai ychydig o ddillad newyddion fyddai pobl yn gael yr oes hono, oblegid Hugh Rolant oedd dewis weithiwr y teuluoedd o amgylch ogylch y wlad, ac nid oedd nifer y gweithwyr ganddo ef ond ychydig. Yn yr ysgol foreuol hon, gan dreulio ei ddyddiau yn dilyn ei alwedigaeth ar hyd tai y wlad, y trysorodd Dafydd Rolant i'w gof y stor ddhbysbydd o chwedlau a hanesion, y rhai y byddai yn eu hadrodd mor fynych ac mor ddeheuig.

Digwyddiad pwysig mewn blwyddyn fyddai dyfodiad y gwneuthurwyr dillad i'r ty i weithio. Byddai disgwyliad am danynt er's wythnosau, a pharotoi nid bychan ar eu cyfer. Nid disgwyliad am y dillad newyddion oedd yr unig beth pwysig, ond disgwyliad am y bobl ddieithr i ben y bwrdd i wnio am wythnos. Byddai y tai yn cael eu tlodi am gryn dair wythnos trwy eu dyfodiad, a rhoddid y bai am y tlodi ar y teilwriaid. Cymerai hyny le, meddai un o honynt, fel y canlyn:—

Yn ol arferiad y wlad, elai gwragedd gweithwyr, a phobl dlodion i'r ffermdai i brynu ymenyn a llaeth. Wedi myn'd at y ty, gofynid a oedd yno ymenyn a llaeth i'w gael. "Nac oes yma ddim yn ddigon siwr," fyddai yr ateb, "yr ydym yn disgwyl y tlwriaid yma yr wythnos nesaf." Wedi myn'd at y ty yr wythnos ganlynol, yr ateb a geid, "Does yma ddim yn siwr, mae'r tlwriaid yma yr wythnos yma." Gwneid yr un cais yr wythnos ddilynol drachefn, a'r ateb yr wythnos hono fyddai, " 'Does genym ddim i'w spario, mae'r tlwriaid wedi bod yma yr wythnos dwaetha." Felly, tlodai y teilwriaid y tai y byddent yn gweithio ynddynt am dair wythnos gyfan. Byddent o angenrheidrwydd, wrth fyned gymaint o amgylch