Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyda'u goruchwylion, yn gorfod gweithio mewn llawer math o le. Y tai yn fychain a gwael. A digwyddai llawer tro rhyfedd yn fynych. Digwyddodd tro rhyfedd felly mewn ty haner y ffordd o Bennal i Fachynlleth, a elwid Penybwlch, ar ben Bwlch Pennal, yn ngolwg Pennal a Machynlleth yn mron ar unwaith. Perthynai y ty i Ystad Plas Machynlleth, a gosodid ychydig o dir gydag ef, lle i gadw rhyw nifer bychan o greaduriaid. Y ty erbyn hyn er's llawer blwyddyn wedi ei dynu i lawr, heb ddim o hono yn aros ond y sylfaeni. Yr oedd ynddo ffenestri bychain, fawr fwy na throedfedd ysgwâr, a phethau eraill yn gyfatebol fychain. Ar rhyw ddiwrnod teg o haf yr oedd Hugh Rolant a Dafydd Rolant yn gweithio yn y ty hwn. Eisteddai yr olaf ar ryw ddodrefnyn wrth ymyl ffenestr fechan a phedwar paen bychain iddi, er mwyn cael cymaint o oleuni i weithio ag a allai. Eisteddai ei dad ar ben bwrdd yn agos i'r drws, er mwyn iddo yntau gael ychydig ychwaneg o oleuni y ffordd hono, gan adael y drws o hyd yn agored. Cyn pryd cinio, daeth hen hwch fagu i roi tro trwy y ty, ac yn ei ffwdan tawlodd gwraig y ty ddwfr poeth o'r crochan, lle y berwai y tatws ar y tân, ar gefn yr hwch fagu, ac mewn eiliad rhoddodd hono sponc, a rhuthrodd allan trwy y drws, o dan y bwrdd lle yr oedd Hugh Rolant yn gwnio, gan gario y bwrdd a'i lwyth allan o'r ty yn ddigon pell. Faint bynag fu maint yr anffawd, dymchwelwyd y bwrdd a'i lwyth yn glir yn yr awyr agored, a chwarddai y llanc oedd yn gweithio wrth y ffenestr nes oedd ei ochrau yn siglo, fel y chwarddodd laweroedd o weithiau wedi hyny wrth adrodd yr hanes.

Adroddir yr hanesyn canlynol gan un o hen bobl y wlad, ac y mae yn ddigon tebyg o fod yn wir. Gweithiai y ddau gyda'u gilydd, fel arfer, ar ben y bwrdd mewn ffermdy pur fawr yn Mhlwy Towyn. Yr oedd yn brydnhawn teg o haf y tro hwn. Gyda'r nos, yr oedd y merchaid fel y byddant y pryd hwnw o'r dydd, yn llawn prysurdeb a thrafferthion, yn godro, yn rhoi