Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llaeth i'r lloi, ac yn bwydo'r moch. Yr oedd y crochan mawr ar y tân, a'r uwd yn berwi ynddo at swper. Wedi bod allan gyda'r creaduriaid, daeth y wraig ar ei haldiad i'r ty, rhoddodd dro yn yr uwd gan roddi dyrnaid o halen yn y crochan, ac allan a hi drachefn. Ar ei hol yn mhen tipyn, daeth y ferch i'r ty, rhoddodd hithan dro yn yr uwd a dyrnaid o halen ynddo, ac allan a hi. Yn mhen ysbaid, daeth y forwyn i'r ty, ac aeth hithau trwy yr un oruchwyliaeth, gan gipio dyrnaid o halen a rhoddi tro yn yr uwd. Wedi i hon droi ei chefn, ebe Hugh Rolant, "Deio, mae pawb yn rhoddi tro yn yr uwd, dos i lawr, a dyro dro ynddo, a gwna yr un fath a'r lleill." Aeth yntau i lawr, ac aeth trwy yr un oruchwyliaeth ag a welsai y tair merch yn ei wneuthur o'i flaen. Amser swper a ddaeth, a diangenrhaid yw dywedyd nad aeth yr uwd yn ddim llai y noson hono, oherwydd ei halltrwydd.

Helyntion bore oes oedd y pethau hyn, a llawer o bethau cyffelyb a gymerent le yn fynych, ar lawr gwlad, ac yn mhlith trigolion gwledig y cymoedd, driugain a deg o flynyddau yn ol. Dosbarth o bobl barablus oedd y rhai o'r un alwedigaeth a'r tad a'r mab yr ydys yn son am danynt. Medrent siarad a gweithio ar yr un pryd, ac er amser yr athronydd Bacon, fe wyr pawb mai siarad a wna ddyn parod. Ac nid oedd neb yna yr holl wlad yn fwy llithrig a pharod eu hymadrodd na Hugh. Rolant a Dafydd Rolant.

Yn mhen amser dechreuasant gadw siop yn y pentref. Bechan mewn cymhariaeth oedd hono yn y dechreu, ond cynyddodd fel y cerddodd yr amser ymlaen. O'r Drefnewydd y cyflenwid y wlad a nwyddau y pryd hwnw. Mynych y clywid D. Rowland yn son am ei siwrneion i'r Drefnewydd i brynu nwyddau i'r siop. Cerddodd yn ol a blaen o Bennal yno—yr oedd yn ysgafn ei droed, ac yn ystwyth o gorff—ar ei draed laweroedd o weithiau, bedair milldir a thriugain o bellder, rhwng myn'd a d'od. Ar ol dechreu masnachu, cerddai ef