Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedy'n trwy y cymydogaethau, gan ddilyn ei alwedigaeth fel o'r blaen, a gadawai ei chwaer i ofalu am yr amgylchiadau gartref.

Cafodd gwrthddrych y Cofiant, yn y modd hwn, yn nhymor bore oes, ei arfer i ddiwydrwydd dyfal. Ni wyddai ddim beth oedd segura.

Cafodd ei gadw hefyd yn nglyn a'i waith beunyddiol rhag myn'd i ofera ac i ddilyn lliaws i wneuthur drwg. Ni chafodd, mae'n wir, ond y nesaf peth i ddim o fanteision crefyddol. Bu farw ei fam, fel y crybwyllwyd, pan oedd yn naw oed. Yr oedd ei dad yn llawdrwm ar grefyddwyr, ac o duedd i erlid yr Ymneillduwyr. Nid oedd yr achos Methodistaidd yn Mhennal ond bychan a llwydaidd, yn nhymor bore ei oes. Bychan iawn oedd nifer y Wesleaid. Yr oedd yr Annibynwyr yn lliosocach. Cawsant hwy y blaen ar yr Enwadau eraill mewn sefydlu achos. Yr oedd Mr. Davies yr offeiriad yn boblogaidd, ac yn ystod ei dymor ef yn Mhennal ymgasglai y bobl i'r Eglwys Sefydledig i wrando. Yr oedd yno sel a gweithgarwch gyda'r Ysgol Sul. Yr oedd Mr. Davies yr offeiriad yn enedigol o dref y Bala, lle y cychwynodd ac y blodeuodd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn Nghymru. Cynygiodd Feibl yn rhodd i bawb o'r ieuenctyd fyddent wedi dilyn yr Ysgol Sul yn yr Eglwys yn ddi-goll am flwyddyn. Ymhlith nifer o ieuenctyd yr ardal, enillodd Dafydd Rolant Feibl yn wobr am ddilyn yr Ysgol yn yr Eglwys heb golli yr un tro am flwyddyn gyfan. Elai i wrando ar y Sul, weithiau i'r Eglwys, ac weithiau i'r capel, er fod ei duedd er yn blentyn at bobl y capel.

Ni chafodd, modd bynag, ddim manteision i fyw yn grefyddol yn ei gartref, oddieithr dylanwad ewythr iddo, ac un o'i chwiorydd. Un a gywion yr estrys yr ystyriai efe ei hun, ac yr oedd yn agos i ddeg ar hugain oed cyn i ddim byd neillduol gymeryd lle yn ei hanes crefyddol.

Ond yr oedd, er hyny, ryw dynerwch a thuedd grefyddol yn ei natur er yn blentyn. Adroddai ef ei hun yn fynych yn