Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ystod ei fywyd yr hanesyn canlynol. Yr oedd yn Mhennal, yn perthyn i'r Methodistiaid, hen flaenor nodedig o dduwiol, Arthur Evan, y Crydd. Nid oedd gan neb yr un amheuaeth am grefydd Arthur Evan. Yr oedd ei grefydd mor amlwg fel yr oedd y plant yn ei gweled, ac yn teimlo ei dylanwad. Ar ystorm o fellt a tharanau—yr oedd arno ofn y mellt a'r taranau—rhedai Dafydd Rolant, pan yn blentyn pur ieuanc, i'r gweithdy at Arthur Evan i lechu yn ystod y storom, a theimlai yn hollol dawel a diogel wrth ochr yr hen sant, nes i'r ystorom fyned heibio. Y mae enw yr hen flaenor hwn wrth Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb, wedi ei sillebu ganddo ef ei hun yn ol tafodiaith yr ardal—Arthir Evans, Pennal, County of Merioneth, Shoe Maker.