Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD III.—YN YMUNO A'R METHODISTIAID.

CYNWYSIAD—Yr hyn a barodd iddo fod yn Fethodist—William Rowland ei Ewythr—Diwygiad 1819—gorfoledd yn nhy Peter Jones a Sian William—Y Diwygiad Dirwestol yn 1836— Sign y Black Crow yn cael ei thynu i lawr—Hanes D. Rolant yn d'od yn Ddirwestwr—Llythyr y Parch. D. Cadvan Jones—Yn dyfod i'r Seiat yn 1838—Yn talu y casgliad misol cyntaf Yn cyfodi'r allor deuluaidd—Yn llafurio am wybodaeth—Yn cael ei ddewis yn flaenor yn 1850.

 ANWYD a magwyd fi." ebe ef ei hun, "mewn ty pryd yr oedd ewythr i mi yn un o ddynion ieuainc y Diwygiad 1819. Yr oeddwn i yr adeg ryfedd hono tua naw oed, ac i fy ewythr, a'm dwy chwaer, yr wyf yn ddyledus am fy mod yn Fethodist. Eglwyswr oedd fy nhad, selog a lled ddeallus, a thalentog iawn i siarad, ac o duedd erlidgar. Canoedd o weithiau y clywais ddadleu brwd rhwng fy nhad a fy ewythr. Ond yr oedd fy nghydwybod wedi ei henill o du fy ewythr, a diolch am hyny. Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddai fy nhad yn defnyddio geiriau yr Epistolau am y gau-athrawon, ac yn eu cymhwyso at y Methodistiaid."

Yr ewythr y cyfeirir ato oedd William Rowland, brawd i'w dad, yr hwn fel yr ymddengys oedd gryn dipyn yn ieuengach na'i dad. Yr oedd y ddau o'r un alwedigaeth. Preswyliai y ddau yn yr un ty, a gweithient gyda'u gilydd ar hyd tai y