Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wlad. A chlywai Dafydd Rolant y dadleuon ar faterion crefyddol pan yn gweithio yn y tai gyda hwynt, yn gystal ag yn ei gartref. Daeth William Rowland yn ddyn rhagorol o dda. Symudodd i fyw i'r Deheudir, a bu yn flaenor defnyddiol yn y Blaenau.

Y Diwygiad y crybwyllir am dano yn y paragraff uchod oedd Diwygiad Beddgelert. Rhyfedd y cyfnewidiad a barodd y Diwygiad hwnw trwy holl siroedd Cymru. Treblodd nifer yr aelodau eglwysig trwy y wlad. Ar ei ol, daeth cyfnod euraidd yr Ysgol Sabbothol, a'i goleuni hi, yn nghyda'r ffaith i nifer y crefyddwyr amlhau, a fu yn foddion i wasgaru adar y tywyllwch, ac i beri marwolaeth hen ofergoelion ac arferion annuwiol y trigolion. Nid oedd nifer y crefyddwyr yn Mhennal ond bychan iawn yn flaenorol i'r Diwygiad hwn. Nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel. Mewn ty bychan yn nghanol y pentra—dan yr un tô a'r hen Bost Office, wrth ymyl porth y Fynwent, yr addolent, a byddai oferwyr, a segurwyr, a rhai Eglwyswyr selog, yn ymgasglu yn fintai o amgylch porth y Fynwent, i ddisgwyl y Methodistiaid allan o'r moddion a gedwid yn y ty hwn, er mwyn cael cyfle i'w gwatwar a'u gwawdio. Ond gorchfygwyd yr ardal gan grefydd y Diwygiad. Cryfhaodd y crefyddwyr, ac yn fuan wedi hyn yr adeiladwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn Mhennal. Dengys y rhybudd canlynol oddiwrth Arthur Evan, y blaenor, i Cadben Thruston, perchenog Ystad Talgarth Hall, y dyddiad yr oeddynt yn ymadael o'r ty yr arferent ymgynull, i fyned i'r capel cyntaf i addoli:—

"To Captain Thruston.

"At the Expiration of my present year's holding, I shall quit and deliver up to you the possession of that house or tenement now used as a chapel, situate in the Village of Pennal, in the County of Merioneth, which I now hold under you. As witness my hand this 22nd day of September, 1820.——A. E."