Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwrthwyneb i'r hyn a welsai yn nyddiau ei febyd, i beri iddo ogwyddo at grefydd y capel.

Aeth cyfnod o amser heibio ar ol hyn, hyd nes yn nghwrs y blynyddoedd y daeth diwygiad arall, yr hwn a barodd chwyldroad trwyadl yn yr ardal, yn gystal ag yn y wlad yn gyffredinol—y Diwygiad Dirwestol. Daeth hwn yma o gymydogaethau eraill, sef o Gorris a Machynlleth. Cymerodd Corris dân yn un o'r manau cyntaf yn Nghymru, a thân poeth a dorodd allan yno. Daeth y tân o Gorris i lawr i Fachynlleth, a cherddodd trwy yr ardaloedd cylchynol, nes goddeithio pob cwr o'r wlad gyda chyflymdra digyffelyb. Buasai yn anhawdd credu y fath oruchafiaeth lwyr a gafodd y diwygiad hwn ar feddwdod y wlad, oni bai fod y ffeithiau wedi eu cofnodi, a'r ffigyrau am y nifer a ardystiodd Ddirwest wedi eu hargraffu ar y pryd. Yn y Diwygiad Dirwestol gan y Parch. Dr. John Thomas, Liverpool, dywedir fod 492 wedi ardystio Dirwest yn Mhennal, erbyn mis Ebrill, 1837, ac yn Pantperthog yn yr un plwyf, 121,—rhwng y ddau le, 613. Nis gallai yr holl boblogaeth yr adeg hon fod ond ychydig iawn yn fwy na hyn. Dywed hen bobl hynaf yr ardal, fod gwaith Dr. Charles yn llosgi alcohol yn un o'r pethau cryfaf i argyhoeddi y bobl o'r niweidiau sydd yn y ddiod feddwol. Yr oedd dwy dafarn yn Mhennal cyn hyn. Enw un o honynt oedd Black Crow, ar sign yr hon yr oedd llun brân ddu, a chedwid y dafarn gan wr blaenllaw perthynol i enwad yr Annibynwyr. Yr oedd y sel ddirwestol, modd bynag, mor boeth, fel erbyn rhyw fore yr oedd sign y Frân Ddu wedi ei thynu i lawr yn ddiarwybod i bawb, ac ni welwyd mor frân ddu hono byth mwy, ac ni fu ond un dafarn yn Mhennal o'r pryd hwnw hyd y dydd heddyw.

Yn ystod saldra diweddaf David Rowland cafwyd yr hanesyn canlynol ganddo mewn rhan yn ddamweiniol. Yr oedd ysgrifenydd yr hanes hwn yn darllen llythyr iddo tra yr oedd yn ei wely. Llythyr ydoedd oddiwrth y Parch, D. Cadvan