Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Jones, Caerfyrddin. Dyma fel y darllena rhanau o'r llythyr:—

"Pan yr oeddwn yn dilyn fy ngalwedigaeth yn Machynlleth, yn llencyn ieuanc iawn, yr oedd y doniol-ffraeth John Lewis, Felingerig, o fythol goffadwriaeth, wedi ei lyncu i fyny a'i drwytho mewn sel ddirwestol, ac wedi casglu o'i gwmpas gylch o wyr ieuainc, y rhai oeddynt o dan ddisgyblaeth ganddo, ac at ei wasanaeth ar ymweliadau â gwahanol leoedd yn y cylch. Coffa da am y noson ryfedd yn Mhennal, pan dorwyd y Parch. J. Foulkes Jones, B.A., a minau i mewn ganddo y tro cyntaf i ni ein dau siarad yn gyhoeddus. Y mae adgofion byw ar gof a chadw o'r noson hono ar fy nheimlad, ac erys byth. Yr oeddym ein dau yn hwyrfrydig iawn i fyned, ac ni buasem mae'n debyg, yn meddwl myned onibai cwmni yr hen dad doniol a digrif, ysbrydiaeth yr hwn oedd yn ddigon i eneinio ysbryd y mwyaf dideimlad. Yr oedd y noson yn oer, gwlyb, ac anfanteisiol, ond yr oedd y ddau brentis wrth siarad â'u gilydd yn rhyw led dybied iddynt fyned trwy eu gorchwyl heb beri llawer o boen i'r hen flaenor, a chaed prawf o hyny trwy iddo geisio ein gwasanaeth yn aml wed'yn. Bernir na byddai y nodyn bychan hwn yn annerbyniol genych, gan mai yn eich pentref chwi, yn hen 'Gapel y Sentars,' yr agorodd yr anwyl Mr. J. Foulkes—Jones ei enau mewn ffordd gyhoeddus y tro cyntaf erioed."[1]

Wedi darllen y llythyr uchod yn ei glywedigaeth, ebe David Rowland, "Dirwest a'm hachubodd inau. Yr oeddwn yn dechreu myn'd yr un ffordd a bechgyn ieuainc gwyllt y wlad y

pryd hwnw. Yr oedd amryw o gefnderwyr i mi yn Machynlleth yna, a byddent yn fy hudo inau. Yr oeddwn yn rhy

  1. Yr hyn a achlysurodd i Mr. Cadvan Jones ysgrifenu y llythyr hwn ydoedd, iddo daro yn ddamweiniol ar Gofiant Mr. Foulkes-Jones, tra yn aros yn y Borth, Sir Aberteifi, ac iddo gael hyfrydwch mawr iddo ei hun wrth ei ddarllen.