Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffeind fy natur—yn eu tretio hwy â diod. Un tro, yr oedd bechgyn y dref, Huwcyn Arthur yn un o honynt, yn pasio trwy Bennal, wedi bod yn danfon dillad yn y Gogarth (yr oedd genyf feddwl mawr o fechgyn y dref), aethum a hwy i'r dafarn, ac 'rwy'n cofio yn dda fod genyf dri swllt yn fy mhoced, a gweriais hwy bob dimai, trwy roi diod iddynt.

"Yr oedd Dr. Edwards, y Bala, yn areithio ar ddirwest yn Machynlleth tua'r pryd hwnw. Ac 'rwy'n cofio'n dda, fy mod yn gweithio yn Pant Perthog, ac yn dweyd ar fy eistedd wrth weithio, gan daro fy nwrn ar y bwrdd, 'Nid wyf yn gweled fod gan Dduw na dyn ddim yn fy erbyn trwy yfed ambell i lasiad, os byddaf yn gymedrol! Wir, wn i ddim,' ebe William Hughes, Pant Perthog, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc yr adeg hon, yr oedd Mr. Edwards, y Bala, yn dweyd wrth areithio, yn y dref yna (Machynlleth), fod goleuni newydd wedi dyfod 'rwan ar ddirwest, a bod yfed un glasiad bellach yn bechod yn erbyn Duw.' Mi credais o. Yr oedd genyf gymaint o feddwl o Mr. Edwards, ei fod y fath ddyn cywir a da—mi credais o; ac mi signiais Ddirwest, ac ni thorais byth mo'r ardystiad."

Ni wyddis yn sicr pa flwyddyn, na pha ddydd o'r mis y darfu iddo ardystio. Ac nid ydyw hyny o fawr o bwys. Mae y ffaith iddo wneuthur hyny yn ddigon pendant, ac y mae y dull y gwnaeth yn debyg iawn iddo ef ei hun. Mae yn lled sicr i hyn gymeryd lle yn mhoethder y diwygiad dirwestol, oblegid ardystiodd ei dad y pryd hwnw, a'r meddwon penaf, a bron holl drigolion yr ardal, a byddai yntau gyda llawer o foddhad trwy ei oes yn adrodd am orchestion y Gymdeithas Ddirwestol ar ei dyfodiad cyntaf i'r wlad. Mae yn bur sicr hefyd ddarfod i'w sel gyda dirwest barotoi y ffordd iddo ddyfod at grefydd.

Yn y flwyddyn 1838, yr oedd y Parchn. Ebenezer Davies, Llanerchymedd, ac Owen Rowland, o Sir Fon, ar daith trwy y wlad i bregethu, ac ar y 14eg o fis Rhagfyr, yr oeddynt yn