Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwnaeth ddefnydd da o'i amser, y blynyddoedd cyntaf wedi iddo ddyfod at grefydd, i drysori i'w feddwl wybodaeth o bethau crefydd. Ysgrifenai yn ei ddull ei hun, y tymor hwn yn lled gyson, ranau helaeth o bregethau a wrandawai, gartref ac oddicartref, y rhai sydd yn awr i'w gweled mewn hen lyfrau ar ei ol. Darllenodd Lyfr Gurnal, "Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth," a meistrolodd ef yn dda. Byddai ganddo sylwadau o Gurnal i'w hadrodd yn y cyfarfod eglwysig hyd ddiwedd ei oes. Pob llyfr o gyffelyb natur y deuai o hyd iddo, ni throai mo hono o'r neilldu nes ei ddarllen drwyddo, ac felly cyfoethogodd ei feddwl yn fawr â'r hyn oedd bur ac adeiladol. Hyn, yn nghyda'r duedd reddfol oedd ynddo i sylwi ar bobl a phethau, a'i gwnaeth yn ŵr parod ei sylw pan y gelwid arno i siarad ar fyr rybudd.

Yn mis Chwefror, 1850, ar y 26ain o'r mis, pan oedd yn ddeuddeg oed o broffeswr, a dwy fynedd cyn priodi, derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, fel blaenor yn eglwys Pennal. Yn ei gartref ei hun, yn Mhennal, y cynhelid y Cyfarfod Misol hwnw, ac yn yr un cyfarfod derbyniwyd dau flaenor eraill gydag ef, sef Richard Hughes, a Lewis William, Aberdyfi. Y tri erbyn hyn wedi ymuno â'r dyrfa ddedwydd, fry yn y nefoedd. Bu ef yn gwasanaethu swydd blaenor dros dair blynedd a deugain a haner.