Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IV.—YN MYSG ARDALWYR PENNAL.

CYNWYSIAD—Yn frodor o'r brodorion—Y rheswm am ei boblogrwydd— Darluniad y Parch. John Owen, y Wyddgrug, o hono— Ei fedr i ddesgrifio cymeriadau—Arthur Evan yn cyfarfod temtasiwn ar y Sul—Ei gynghorion mewn priodas—Y ddau flaenor yn dadleu dros godi yn y casgliad at y Weinidogaeth—Yn tynu trowsus Mr. Davies yr offeiriad allan—Cranogwen yn gwneuthur tro chwareus—Ei sylw wrth Mr. Holland, A.S., amser etholiad—Ei ddameg wrth areithio adeg etholiad 1885—Y fainc yn tori tra yn siarad yn yr Ysgoldy—Ei Araeth fawr amser sefydlu y Bwrdd Ysgol yn 1874—Ei ffraethineb of a ffraethineb y Parch Richard Humphreys—Sylw y Proffeswr Henry Rogers am dano

 N ei ardal ei hun yr oedd yn fwyaf adnabyddus, ac yn fwyaf poblogaidd, er na welwyd odid neb yn ei oes yn fwy poblogaidd yn mhob cylch y troai ynddo—yn mhell ac yn agos. Yr oedd yn un o frodorion y lle, ac yn frodor o'r brodorion. Dygwyd ef i fyny yn swn traddodiadau hynafiaid y gymydogaeth. Ni bu yn byw erioed y tu allan i'r pentref. Dygodd ei alwedigaeth ef i gysylltiad agos â'r trigolion, o bob gradd, tlawd a chyfoethog, da a drwg. Adnabyddai y bobl oll, deallai eu hanes i'r gorphenol pell, a gwelai â'i lygaid eu dull o fyw a bod. Yn gymharol ddiweddar ar ei oes, daeth fel masnachwr i wybod yn bur dda am ffordd y wlad i ymwneyd a'r byd. Er na chafodd addysg foreuol, yn yr ystyr yr edrychir ar addysg yn yr oes hon,