Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cafodd fwy o fanteision na llawer i ddyfod yn gydnabyddus â chwrs cyffredin bywyd yn mysg dynolryw. A byddai yn hawdd gweled, bob amser, y wedd hon ar ei wybodaeth ac ar ei ddull o ymadroddi.

Yr oedd wrth natur yn 'garedig a chymwynasgar, o dymer hoew ac ysgafn. Y ddeddf fawr sydd yn llywodraethu y byd naturiol, sef deddf at-dyniad, oedd deddf ei natur ef. Ni welwyd un amser yr elfen gymdeithasgar yn gryfach yn neb. Tyfodd i fyny gyda phobl ei oes, a phobl ei ardal, a defnyddio geiriau yr Ysgrythyr, gan "gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd." Gwnaeth gyfeillion o'r dosbarth dysgedig, yn gystal a'r bobl gyffredin. Yr oedd fel y dywedwyd, yn anarferol o boblogaidd yn mhob cylch. Yr oedd felly gyda'r plant, a'r hen bobl, a'r hen wragedd, a'r cymydogion, a'r boneddigion oedd yn byw yn yr ardal. Byddai ganddo air siriol i'w ddweyd wrth bawb. Fel rheol, cyfodai bawb i fyny gyda'i ddywediadau parod a digrifol. Gwnaeth gymwynasau dirif i'w gymydogion yn ei oes. Ato ef yr elai y bobl i ymgynghori ar faterion cyffredin bywyd. Ato ef yr elai yr hen wragedd, a'r anllythrenog, i ysgrifenu eu llythyrau drostynt at eu perthynasau. Os byddai rhywrai yn glaf, neu mewn tlodi, efe fyddai y cyntaf i weinyddu cysur i'r cyfryw. Os gelwid ar y gweinidog i dy i fedyddio, pryd y byddai hir afiechyd yn atal y teulu i'r capel, gelwid arno yatau i'w ganlyn. A phan y cymerai priodas le yn y gymydogaeth, odid fawr na fyddai Dafydd Rolant, naill ai yn bresenol yn y seremoni, neu yn y wledd gartref. Mor gartrefol fyddai gyda phob gradd o bobl. Yn niwedd ei oes, pan yn y sêt fawr yn galw ar y brodyr i gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi, ei ddull aml fyddai yn debyg i hyn "Hwn a hwn, dowch ymlaen i roi penill allan, dowch John bach, neu Tomos bach, neu Richard bach."

Y Parch. John Owen, yn awr o'r Wyddgrug, yr hwn o'i febyd oedd yn gydnabyddus iawn ag ef, a goleddai y syniadau uwchaf