Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'I ble yr ei di? I siop Dafydd Rolant i ymofyn canwyll ddimai. Gad i mi fyn'd?' ac felly yr oedd yn enill y da-da. Aeth ymlaen felly am gryn amser yn athrawiaethu ar y pwysigrwydd i siopwr gadw ei gwsmeriad mewn tymer dda. Ni ddylai siopwr, meddai, son llawer am ei gydwybod yn y siop. 'Na fydd rhy gyfiawn, paham y'th ddyfethit dy hun?' Cymhwysai yr adnod at y masnachwr, trwy ddweyd, fod dynion yn reddfol yn ameu y dyn sydd yn son byth a hefyd ei fod yn gyfiawn, yn onest, ac yn gydwybodol."

Dywedir uchod fod ganddo allu anarferol i ddesgrifio cymeriadau. Medrai wneyd hyn mewn ffordd hollol o'r eiddo ei hun. Gydag un gair, neu un frawddeg, tynai ddarlun o ambell i gymeriad, nas gellid byth ei anghofio. Arferai yn fynych ddweyd, "Gochelwch y dyn na fyddo yn hoff o blant." Yr oedd ef yn hynod o fedrus i dynu sylw, ac i argraffu gwirioneddau ar feddyliau plant Pennal. Bu tô ar ol tô o blant y pentref yn edrych i fyny ato fel eu tad; meddylient mai efe oedd pia pob peth, nid yn unig yn y siop a'r capel, ond ymhob man o dan deyrnasiad y Frenhines Victoria.

Cofiai yn dda am droion hynod yr ardalwyr, ac adroddai hwy gyda medrusrwydd digymhar. Arthur Evan, y crydd, a gyfrifid y mwyaf crefyddol yn mhlith hen bobl yr ardal. Yr oedd Arthur Evan yn flaenor yn nghapel y Methodistiaid, a deuai i fyny â chysegredigrwydd ei swydd yn ngolwg pawb, o ran crefyddoldeb ac ymarweddiad. Ond digwyddodd i demtasiwn oddiweddyd Arthur Evan ar y Sul unwaith. Yr oedd ganddo fab o'r un alwedigaeth ag ef ei hun, yn byw yn yr un ty, ac yn grefftwr da, o'r enw Edward. Ar ryw ddydd Sul daeth un o fechgyn gwyllt a digrefydd y gymydogaeth i'r ty i dalu am ei esgidiau. "Yr ydwyf yn myn'd i ffwrdd i Ferthyr bore fory, Arthur Evan," meddai, "ac fe ddois yma i dalu i chwi am fy sgidiau cyn myn'd," ac estynai yr arian ar ei law. Edrychai yr hen wr ar yr arian, a rhag ofn yn ddiameu na chai