Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olwg arnynt byth ond hyny, meddai wrth ei fab Edward, "Derbyn di nhw Ned."

Fel y dywedwyd o'r blaen, pan y cymerai priodas le yn yr ardal byddai ef yn bur siwr o fod yn un o'r gwahoddedigion, o leiaf yn y wledd gartref. Un o'r cynghorion a roddai yn gyffredin iawn ar y cyfryw achlysuron i'r wraig ieuanc ydoedd yr hyn a ganlyn: "Peidiwch a holi llawer o gwestiynau i'r gwr yn rhy fuan wedi iddo ddyfod adref o'i daith. Bydd dyn yn flinedig newydd ddychwelyd o daith, ac hwyrach y bydd rhywbeth wedi blino ei feddwl, ac os ewch i'w gwestiyno yn ormod yn rhy fuan, digon tebyg na chewch chwi fawr ddim ganddo. Ond estynwch slippers iddo i ddechreu, gwnewch dân siriol, rhoddwch y tecell ar y tân, a heliwch y llestri tê, ac wedi iddo ddiflino a chael cwpanad o dê, gellwch holi faint a fynoch arno, ac fewch ateb i bob cwestiwn."

Tra yr oedd Mr. Humphreys yn byw yn Ngwerniago, yn yr ardal hon, yn niwedd ei oes, y daeth dau o flaenoriaid yr eglwys, Dafydd Rolant a William James, yr Ynys, adref o Gyfarfod Misol Dolgellau, ac y buont yn traethu yn frwd yn yr eglwys o blaid codi yn y casgliad at y weinidogaeth. Dyna y mater y bu sylw arbenig arno yn y Cyfarfod Misol hwnw. Yr oedd William James yn llawn tân, yn dadleu dros ddiwygiad yn y peth y teimlai yr oedd yr eglwys yn ddiffygiol ynddo. Mr. Humphreys yn ofni iddo yru yn rhy chwyrn a ddywedai, "Gently William, gently William." Siaradai Dafydd Rolant yn ei ddull arbenig ei hun, yn bur selog,—"Nid yw yn beth anrhydeddus ynom adael i weinidogion yr efengyl fod ar eu gora glâs yn byw. Mae gweinidog a dillad gwael, tlodaidd am dano yn beth annheilwng yn yr oes yma. Mi fyddai yn leicio gweled pregethwr yn gwisgo yn deilwng o'i swydd; yn lle bod mewn dillad llwydaidd, llwm, gyda gwisg raenus, coat ddu, dda, am dano, a golwg smart arno yn esgyn i fyny i'r pulpud." "Ie, ynte Dafydd," ebe Mr. Humphreys, yr hwn a eisteddai