Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddamweiniol. Cafwyd cryn ddigrifwch pan oedd Miss Cranogwen Rees yo darlithio y tro cyntaf yn Mhennal. Yr oedd y dyrfa yn anarferol o liosog, y bobl wedi ymgasglu o'r cymydogaethau cylchynol, a hen gapel y Methodistiaid, bob cwr o hono, yn llawn at yr ymyl Yr oedd bron bawb yn ddieithr ar y pryd i'r hon oedd yn myned i ddarlithio. Llywyddid gan y diweddar Mr. David Davies, Corris. Eisteddai David Rowland, yn y lle mwyaf amlwg ar y stage, gan wrando â'i ddwy glust a'i ddau lygaid. Daeth i ran Cranogwen, wrth siarad, i gyfeirio at hanesyn, yr hwn a ddechreuai fel hyn, "Yr un fath a'r teiliwr hwnw." Dechreuodd y gynulleidfa a chwerthin yn aflywodraethus a dibaid. "Nis gwn yn y byd am be' 'rych yn chwerthin," ebe y foneddiges athrylithgar, Atebodd y Cadeirydd hi,-"Mae o yn eich ymyl, Ma'm," "Ho," ebe hithau ar un ergyd, "Nid y teiliwr hwn wy'n feddwl, ond y teiliwr hwnw." Mawr oedd boddhad y dyrfa pan y gwnaed y sylw parod a medrus hwn.

Mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ac yn enwedig ar adeg Etholiad, gelwid ar Dafydd Rolant bob amser i siarad, ac er na byddai yn gwefreiddio y gynulleidfa a'i ymresymiadau a'i hyawdledd, byddai yn wastad yn bur siwr o wneuthur home stroke cyn yr eisteddai i lawr. Cynhelid cyfarfod yn yr ardal unwaith ar amser etholiad, pan oedd Mr. Holland yn ymgeisydd, ac yr oedd y boneddwr ei hun yn bresenol. Ebe D. Rolant wrth siarad, gan droi at Mr. Holland, "Liberals ydan ni i gyd, Syr, yn Mhennal yma. Defaid gwynion ydi'r defaid sydd ar hyd y bryniau yma. Mae'n wir fod yma ambell ddafad ddu yn eu plith nhw. Felly, defaid gwynion ydan ninau i gyd, ond fod yma ambell i ddafad ddu yn ein plith ni." Siaradau yn fynych ar ddamhegion. Damhegion hefyd a awchlymai y gwirionedd, ac a'i gwnelai o'i enau ef yn llawer mwy grymus. Clywyd ef yn gwneuthur y sylw yn gyhoeddus, "Byddaf fi yn dueddol iawn, fel y gwyddoch chwi, i ddweyd