Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy meddwl trwy gyffelybiaeth." Siaradai mewn cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal adeg Etholiad Seneddol 1885, pryd yr oedd tri ymgeisydd ar y maes, a Sir Feirionydd mewn perygl o golli y frwydr, trwy i'r ymgeisydd Ceidwadol slipio i mewn rhwng y ddau ymgeisydd Rhyddfrydol. Yr oedd mewn cywair mwy cwynfanus wrth ddechreu siarad y tro hwnw nag y byddai arfer. Ond toc, dyma ei ddameg allan. "Mae'n ddrwg gen i," meddai, fod y sir yn cael ei disturbio gymaint." A throai yn bur hir o gwmpas y gair disturbio. "Mae'n ddrwg gen i fod yr hen sir anwyl yn cael ei disturbio gymaint. Mi welais beth tebyg unwaith yn fy oes, mewn ffair yn Machynlleth yna, er's llawer blwyddyn. Yr oedd yno lot o fustych yn cael en cadw ar ochr y stryd, i ddisgwyl cael eu gwerthu, ac fe dorodd un o honynt allan oddiwrth y lleill, ac fe ddechreuodd a rhedeg trwy y ffair, a'r bobol yn gwaeddi ac yn rhedeg oddiar ei ffordd, ac yntau yn rhedeg yn wylltach. Ac i ble yr aeth o yn y diwedd, ond trwy ryw ffenestr fawr, ac i lawr i ganol llestri priddion, ac ni chlywsoch chwi a'ch clustiau ffasiwn swn oedd yno rhwng y bustach a'r llestri priddion."

Yr oedd ganddo yn ei feddwl un yn cynrychioli y bustach, a rhyw bobl yn rhywle yn y sir yn cynrychioli y llestri priddion, Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgoldy y Bwrdd un tro, galwyd arno i fyny i'r platform i siarad. Yr oedd yr Ysgoldy yn llawn o wrandawyr, y bobl wedi eu pacio yn mhob cwr. Tra yr oedd wrthi yn siarad, torodd y fainc yn ymyl y platform, a syrthiodd y rhai a eisteddent arni i lawr, gan beri tipyn o gynwrf yn y gynulleidfa. Safai yntau yn hamddenol nes i bethau ddyfod i'w lle, a dywedai mewn tôn haner chwareus, "Peidiwch chwi yn y cyrion pellaf yna a dychrynu dim, ni bu yma ddim byd o bwys, tori wnaeth y fainc y fan yma, gan ollwng y bobl i lawr. O ran hyny, fel hyn y gwelais i hi lawer gwaith, lle byddai pregethwr mawr yn rhywle yn siarad."

Bu David Rowland yn dal cysylltiad fel manager a'r Ysgol