Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor aml, a chyda'r un parchusrwydd, am ddywediadau Mr. Humphreys ag y gwnai am ddywediadau Gurnal.

Ymhen blynyddoedd lawer daeth gwr enwog arall i breswylio i'r gymydogaeth, y Proffeswr Henry Rogers, awdwr yr Eclipse of Faith, a'r Super-human Origin of the Bible, un o athrawon cyntaf Dr. R. W. Dale, yn Ngholeg Spring Hill, Birmingham, ac amddiffynydd penaf y ffydd yn Lloegr, ganol y ganrif bresenol. Daeth y gwr hwn yn fuan yn gydnabyddus â David Rowland, a ffurfiodd ei farn am dano. Gwnelai y Proffeswr sylwadau yn ei balasdy, yn Pennal Tower, yn ngwydd yr ysgrifenydd, am hwn a'r llall o drigolion yr ardal, ac meddai am David Rowland, "He is the Patriarch of the Village."— Efe ydyw patriarch y pentref.

Edrychai ieuenctyd a hynafgwyr y gymydogaeth i fyny ato fel eu cynghorwr. Aeth trwy y byd gan enill edmygedd pob gradd o bobl, tlawd a chyfoethog, dysgedig ac annysgedig. Chwareuodd ei ran yn dda, a threuliodd oes gyfan yn mysg ardalwyr Pennal, fel brenin yn mysg llu.