Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

galwyd ar David Rowland i dalu diolch i'r ladies am eu ffyddlondeb yn darparu lluniaeth, ac yn ymdrafferthu ar hyd y dydd, gyda lliaws mawr o gynrychiolwyr a dieithriaid. "Yr ydw i," meddai, "yn hoff iawn o bobl Dolgellau. Mae yma quality da ynoch chwi i gyd. Yn Nolgellau y cefais i wraig; a phe digwyddai i mi fod mewn angen am un eto, yma y denwn i chwilio am dani."

Er mwyn rhoddi yr hanes gywired y gellir, defnyddir yn lled fynych ei eiriau a'i ymadroddion ef ei hun. Mynych y clywyd ef yn adrodd y troion hynod ynglyn a'i fynediad i'r stad briodasol. Yn nhy nain y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, Ellin Humphreys, Penybont, Corris, y gwelodd y ddau eu gilydd y tro cyntaf. Aeth blynyddau lawer heibio heb i ddim gymeryd lle ond cyfarfyddiad yn awr a phryd arall yn ddamweiniol. Pan y gofynid iddo paham y gadawodd i dymor mor faith a deunaw mlynedd fyned heibio heb ddwyn y mater i derfyniad, ac hyd yn nod heb gymeryd yr un cam o gwbl tuag at i hyny gymeryd lle—heb ofyn unwaith yr un cwestiwn iddi hi—ei ateb bob amser fyddai, y buasai wrth wneuthur felly yu chwalu cartref ei dad a'i chwaer, ac yn hytrach na gwneuthur hyny gwell oedd ganddo ymddiried yn nhrefn Rhagluniaeth. Agorodd Rhagluniaeth y drws, modd bynag, iddo ddyfod a gwraig i'w gartref. Gyda bod hyn yn cymeryd lle, anfonodd lythyr i Fronfelen, a dywedai ynddo, fod y llythyr yn dyfod ar yr un neges a gwas Abraham, gyda'r gwahaniaeth fod y neges yn eisieu iddo ef ei hun, ac nid i fab ei feistr. Wyth milldir oedd y pellder o Bennal i Fronfelen, ac nid oedd hyny ond ychydig o ffordd iddo ef, yn ol a blaen, am yr ychydig fisoedd y bu yr ohebiaeth yn cael ei chario ymlaen. Clywai y cloc yn taro yn y Fronfelen ar un o'r ymweliadau hyn, ac meddai, "Dear me, ydi'ch cloc chwi yma ddim yn myn'd yn ffestach na chlociau cyffredin?"

Aml i dro y dywedodd, "Pe buaswn i yn gweled gwagen a