Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llwyth o goed yn pasio trwy Bennal, a phe buaswn yn gwybod fod y coed hyny yn dyfod o goed Fronfelen, buaswn yn para i edrych ar y llwyth yn myn'd i lawr tuag Aberdyfi, nes y buasai wedi myned o'r golwg." "True to Nature," ddywedasai Will Bryan, pe clywsai Dafydd Rolant yn gwneyd y sylw hwn. Mater pwysig ydyw y mater o ymgynghori â'r teulu. Aeth Mary Edwards i Ddolgellau gyda'r amcan hwn. Mae yn fwy anhawdd, medda nhw, wneuthur cytundeb â'r teulu na gwneuthur cytundeb a'r ferch ei hun. Llawer undeb gwir a ataliwyd, a llawer priodas ddedwydd a ddyryswyd, pan ddygwyd yr achos o flaen Papa a Mamma, ac ewythr a modryb. Mewn llawer teulu, o ddyddiau Adda ac Efa hyd y dydd heddyw, wrth eistedd mewn cyngor ar y mater hwn, gyrwyd Rhagluniaeth allan dros y drws, gan fentro'r byd, a'i ffawd, a'i siawns, hebddi.

Galwyd y teulu ynghyd yn Nolgellau i ymgynghori, a mawr oedd yr holi a'r cwestiyno, ynghylch y darpar ŵr—pwy oedd o, sut un oedd o, beth oedd ei amgylchiadau o. Yr oedd yno Ewythr yn y cynghor, pur wybodus a hir ei ben; ac meddai yr Ewythr, "Fe all o fod yn eitha dyn, o ran hyny, ond myn di wybod gynddo fo, Mari, a ydi o mewn dyled." A chytunasant oll fod iddi bwyso arno am atebiad i'r cwestiwn hwn.

Y tro cyntaf yr aeth David Rowland i Fronfelen ar ol hyn, adroddodd hi wrtho yr hanes am yr ymgynghoriad yn Nolgellau, ac meddai, "Y maent wedi fy rhoddi fi dan fy siars i ofyn i chwi, a ydych mewn dyled. Mae'n gas genyf ofyn hefyd." Chwerthin, a chymeryd y peth yn chwareus a wnaeth ef ar y pryd. Ac wedi myned adref i Bennal, ysgrifenodd lythyr ati, yn yr hwn y dywedai, "Yr wyf wedi meddwl llawer am yr hyn a ofynasoch i mi, sef, a ydwyf mewn dyled. Yr ydw i mewn dyled fawr, ond mae genyf Feichia iawn, fe dâl Ef y cwbl drosof, y mae wedi dweyd hyny." Deallodd hi ei feddwl yn y ddameg hon, ac ni fu dim gofyn cwestiynau mwy.