Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfarfu y teulu o Ddolgellau unwaith yn rhagor i ymgynghori, a'r tro hwn yn Nhyrnpac Cefneclodd, yn agos i haner y ffordd rhwng Corris a Dolgellau; a'r prydnhawn hwn cynhaliwyd gwledd o de pwysig yn Cefneclodd ar yr achlysur, Digwyddodd rhyw gymaint o ddamwain hefyd i'r anifail a gludai y parti i fyny o Ddolgellau. Ebe Dafydd Rolant wrth adrodd hanes yr amgylchiadau hyn, "Ni welsoch chwi 'rioed ffasiwn Court Martial oedd yno."

Ymhen diwrnod neu ddau wedi iddynt setlo i lawr yn Mhennal, dywedodd wrth ei wraig am iddi ddal ei ffedog, a thywalltodd lon'd ei ddau ddwrn o aur iddi. "Wel, wir," ebe hithau wrthi ei hun, "'does yma ddim lle llwm iawn." "I be 'rydach chi yn cadw cymaint o arian yn y ty?" Ond cyn pen ychydig ddyddiau, daeth y trafaeliwr heibio, ac aeth a'r aur gydag ef yn ei logell ei hun. Ychydig a wyddai hi fod yr arian wedi eu casglu a'u cadw erbyn dyfodiad y gwr rheibus hwnw.

Yn awr dechreuant fyw eu hoes gyda'u gilydd. Peth lled anhawdd yn yr amgylchiad hwn ydyw ysgrifenu hanes y penteulu, heb ddweyd llawer am y wraig hefyd. Yn un y buont yn eu bywyd; yn un y maent yn nghof eu holl gydnabod; ac yn un y gellir, trwy chware teg, adrodd hanes eu pererindod. Pwy sydd yn cofio am Dafydd Rolant, heb gofio hefyd am Mari Rolant? Pwy fu yn ei gymdeithas ef, y deugain mlynedd olaf o'i fywyd, am awr o amser, heb ei glywed yn son am Mari? Ni bu dau erioed yn fwy o help, y naill i'r llall, i fyned trwy y byd.

Deuai yr Hybarch Richard Humphreys i'w ty un diwrnod, pan oedd yn byw yn yr ardal, a dywedai, "Wyddoch chwi beth oeddwn yn wneyd wrth ddyfod at y ty yma heddyw? Ceisio penderfynu, pa un oreu ydi Dafydd i Mari, ynte Mari i Dafydd." Pan yn cadw y siop yn eu ty eu hunain, arferai y ddau fod un o bob tu i'r counter, ac meddai ef wrth unrhyw un