Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwnelai ef o chwith. Yr oedd un bore Sul yn myn'd i'r capel i osod y cloc yn ei le, gan y gwyddis ei fod wedi sefyll yr wythnos flaenorol. Daeth i'r ty yn ol o'r capel, a dywedai, "Mae'r cloc wedi ei roi i'r dim yn ei le; mae hi o fewn chwe' munyd i ddeg y 'rwan." Erbyn i'r pregethwr fyn'd i'r capel ac edrych ar y cloc, yr oedd o fewn munyd neu ddau i naw o'r gloch, er mai deg oedd y gwir amser. Pryd cinio, gofynodd y wraig iddo, pa'm na fuasai y cloc yn ei le ac yntau wedi bod yn y capel yn ei osod yn ei le. "Wel," meddai, "Mi roddais y bys mawr yn ei le. Mae'n debyg mai gadael y bys bach a wnes heb ei roi yn ei le. O ran hyny, yr oedd yn ddigon tebyg yn y capel fel y mai hi yn y ty yma yn amal iawn—y bys mawr yn ei le, a'r bys bach o'i le."

Mynych yr adroddai wrth y pregethwyr, gyda llawer o ddifyrwch, ei fod ef wedi cael cast ar Mari. Pan byddai y pregethwyr yn aros yn eu ty, arferai hi ofyn iddynt beth a gymerent i swper. Ac ar y mater hwn yr oedd ef yn ddamweiniol wedi cael cast ynddi. "Bydd Mari," meddai, "yn gofyn yn ofalus iawn i'r pregethwyr beth gymerant i swper, ond bydd yn dweyd rhywheth bach wrth gwt hyny. Fel hyn y bydd yn gwneyd. Te ydi'r favourite yma pryd swper. Bydd hi yn parotoi yn ofalus iawn ar gyfer y pregethwr, a bydd yn gofyn iddo wrth fyn'd i barotoi, beth gymerwch chwi i swper—tê ynte coffee?—tê m'ranta', cyn i'r pregethwr gael amser i ateb."

Mae yn eithaf gwybyddus fod y naill a'r llall yn dra medrus mewn siarad, ond pob un yn ei ffordd ei hun. "Fydd neb yn ffeindio dim pall ar Mari mewn siarad," meddai. "Pan fydd yma rywun dieithr yn y ty ar ymweliad weithiau, mi fyddaf fi yn myn'd allan, ac yn dweyd wrthynt, rydw i yn myn'd allan i roi tro i'r ardd; os bydd Mari wedi myn'd heb ddim i'w ddweyd, dowch i alw arnaf fi.' Ond welais i neb erioed eto wedi dyfod i alw arnaf."

Y mae un ffaith yn eu hanes yn profi yn ddigon sicr, eu bod