Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn un ymhob ystyr. Bu tipyn o saldra ar y ddau ar unwaith un tro. Nid oedd hwnw yn saldra pwysig, mae'n wir, nac o hir barhad. Ond yr oedd y ddau yn analluog i ddilyn eu goruchwylion, a'r meddyg wedi ei alw atynt. Rhoddodd y meddyg botelaid o feddyginiaeth i bob un, a'u henwau ar y poteli. Ymhen diwrnod neu ddau, aeth y naill i gymeryd o botelaid y llall, a'r canlyniad oedd, i'r ddau wella rhag blaen.

Laweroedd o weithiau clywyd ef yn dweyd fel hyn,—"Y mae dosbarth o athronwyr yn dweyd, fod rhyw gyfnod i ddyfod ar y byd yma yn mhell, bell, draw, y bydd pawb yn dyfod yn ol eto i fyw ar y ddaear yma. Os bydd hyny yn bod, mi 'rydw i yn sicr mai Mari a briodaf fi, ac mi priodaf hi yn gynt y tro nesaf." Droion eraill dywedai, "Mae yn biti fod Mari yn myn'd yn hen. Mi fuaswaiyn rhoi mil o bunau pe buasai bosibl ei chael yn ifanc eto, dros i mi fyn'd allan i werthu matches i gasglu yr arian."

Yr oedd pregethwr gyda'r ddau i swper un nos Sadwrn. Gyda'u bod wedi dechreu swpera, troes ef at y pregethwr mewn ffordd ddefosiynol iawn, a gofynai, "A oes son fod y siwgr yn codi y ffordd acw y dyddiau hyn?" Atebodd y pregethwr ei fod wedi clywed hyny. "Mae son ffordd yma hefyd," ebe yntau, "ac y mae Mari wedi eu coelio nhw." "Wedi cael rhy fychan o siwgr yn ei dê y mae o," ebe Mrs. Rowland, ac fe rois dri lwmp i chwi hefyd, Dafydd." "Wel ie, ond sut rai oeddynt. Nid yw tri pisin tair ddim ond naw ceiniog." Estynodd hi ychwaneg iddo, gyda'r sylw, "Ond ydi Dafydd yn ddigri."

Bu y ddau gyda'u gilydd un haf yn treulio wythnos ar lan y mor yn y Borth, ger Aberystwyth. Er nad ydyw y Borth ymhell o Bennal, yr oedd y lle yn bur ddieithr iddynt hwy— pobl y lle yn ddieithr, a'r ymwelwyr yn ddieithr. Tra yr oeddynt yno, ar ryw fin nos teg, eisteddai y ddau ar un o'r meinciau yn y Station. Yr oedd gyda hwy ddwy wraig o