Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Sicr drugareddau Dafydd' sydd yma felly." "Ie," oedd yr ateb parod, "ond fod eisiau rhoddi chwanegiad at yr adnod 'Sicr drugareddau Dafydd,' A MARI."

Terfynwn y benod hon, trwy gyflwyno y Gân boblogaidd a gyfansoddodd Mr. R. J. Derfel, i'r ddau, yn ogos i ddeugain mlynedd yn ol. Ryw ddiwrnod, tua'r flwyddyn 1860, daeth gwraig o'r pentref i'r siop, a dywedai, "Mari Rolant, mae nhw wedi eich rhoddi chwi a Dafydd Rolant yn y Papyr Newydd; mae rhyw gân ynddo heddyw am danoch eich dau; dyna fel y mae pobol, os bydd rhyw rai yn d'od dipyn ymlaen yn y byd, rhaid iddynt gael estyn bys atynt yn union deg." Wedi clywed hyn, yr oedd Mrs. Rowland mewn trallod dwfn oherwydd fod rhyw un wed cymeryd yn ei ben eu rhoddi yn y papyr newydd. Nid oedd Dafydd Rolant gartref ar y pryd, ac nis gwyddai hi yn y byd beth i'w wneyd. Ond cyn yr hwyr y diwrnod hwnw, daeth Mr. Humphreys heibio o rywle i'r ty, ac ymarllwysodd Mrs. Rowland ei thrallod iddo ef. "Beth a wnawn ni, Mr. Humphreys! Mae nhw wedi ein rhoi ni yn y Papyr Newydd, a 'dydi Dafydd ddim gartra." Gofynodd Mr. Humphreys am gael gweled beth oedd wedi ymddangos yn y papyr, ac erbyn hyn efe a ddywedodd, "Raid i chwi ddim teimlo dim am yr hyn maent wedi ei wneyd, compliment o'r fath oreu i chwi yw hyn." Bu gair Mr. Humphreys yn ddigon ar unwaith i dawelu pobpeth. Daeth y gân yn boblogaidd yn y ty. Mynych yr adroddai y penteulu hi yn nghlywedigaeth dieithriaid o ymwelwyr fyddent yno, gan roddi pwyslais o'i eiddo ei hun ar aml i air ynddi, yn enwedig ar y llinell yn y penill olaf,—"Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd." Yr oedd Mr. R. J. Derfel y blynyddoedd hyny yn trafaelio dros firm o Manchester, a thrwy hyn yr oedd yn gydnabyddus iawn a Mr. a Mrs. David Rowland. Ymddangosodd y gân hon drachefn yn Nghaneuon Min y Ffordd, un o Weithiau Barddonol Mr. R. J. Derfel.