Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VI.—DYWEDIADAU FFRAETH, A HANESION HYNOD.

CYNWYSIAD—Anfon llythyr i Lundain—Sylw Dr. Lewis Edwards am y Parch. Richard Humphreys—Ei hawl i'r teitl o fod yn athrylithgar—Yn rhagori fel adroddwr Hanesion—Ei gyffelybiaeth am y Parch. Foulk Evans—Y Parch J. Foulkes—Jones, B.A., yn debyg i Iesu Grist—Cyngor i ymwelwyr rhag myn'd at droed y ceffyl yn rhy fuan—Cerdded 'part' o ddau blwy' cyn brecwast—Dau gapel yn un yn y mil blynyddoedd—Colli coron wrth enill haner coron—Blaenoriaid yn ready made—Hen Gymro gwledig yn ymweled a Llundain—Pedwar ugain ond un o gynygion i briodi—Chwilio am y bedwaredd wraig—Dewis y crogbren o flaen priodi—'Barr Toss'—Siarad ymysg y rhyw deg—Gwrthod y gwir, a chredu yr hyn nad yw wir—'Stay long'—Pridd y Puritaniaid—Y cyfiawn yn gofalu am ei anifail—'Reducio' yn yn 'ever-green'—Dyn siaradus yn dafod y corff—Y danedd yn y bocet—Byth yn rhy uchel i siarad—Dwy wraig dalentog yn siarad—Un weithred yn effeithio ar y wyneb—Yn llawdrwm ar gybyddion—Dim posib cneifio y llew—Digon o ddawn i gadw seiat—Gormod o rubanau—Tebyg i Mr. Gladstone—Ymchwydd dynion bychain—Mewn Cyfarfod Misol yn Mhennal—Yn rhoddi cyngor i Flaenoriaid—Yn siarad yn well heb barotoi.

 YN ffraeth oedd gwrthddrych y Cofiant hwn. Wrth hyny golygir, yn ei gysylltiad ag ef, ei fod yn llithrig ei ymadrodd, parod ei sylw, cyrhaeddgar ei atebion. A'i ffraethineb mor naturiol a'r dwr yn rhedeg. Nid