Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn rhagori mewn cynllunio a threfnu; yn hytrach, ceid ef yn ddigon mynych yn y pellder gwrthgyferbyniol i drefn. Ymhen tua pythefnos wedi i ysgrifenydd yr hanes hwn ddyfod i aros i Bennal, galwyd arno ar ryw achlysur i Lundain, ac i aros yno dair wythnos. Derbyniodd lythyr oddiwrtho, tra yn aros yno, heb yr un enw o gwbl o'r tuallan i'r llythyr. Rhif y ty, enw yr heol, a Llundain—dyna yr unig gyfarwyddid a gafodd y llythyr-gludydd y tro hwnw. Er hyny, cyrhaeddodd y llythyr ei wir berchenog yn nghanol Llundain. Wedi cyraedd adref i Bennal, gofynodd i'r ysgrifenydd ar ei ben ei hun, "Ai fel a'r fel yr oedd wedi anfon y llythyr í Lundain?" "Ie," oedd yr ateb, "fel ar fel." "Er mwyn pob peth," meddai, "peidiwch dweyd wrth Mari." Yr oedd ei ffordd o feddwl, a'i ddull o ymadroddi, modd bynag, bob amser yn gymeradwy, gan ei fod mor wreiddiol, a naturiol, a hollol ar ei ben ei hun.

Dywedai Dr. Lewis Edwards, y Bala, am yr Hybarch Richard Humphreys, nad oedd Dr. Chalmers na Franklin yn rhagori arno, "mewn gallu i wneyd sylwadau, a thynu addysgiadau buddiol oddiwrth bethau cyffredin." Mewn gallu i wneuthur sylwadau, a hyny oddiwrth bethau cyffredin, y rhagorai Dafydd Rolant. Meddai ynatau ar athrylith ddiamheuol. Medrai ddweyd pethau cyffredin mewn ffordd na fedrai neb arall eu dweyd. Mewn pertrwydd a ffraethineb yr oedd yn ddigymar, a chwareuai yr elfen ddigrifol yn ei natur mor naturiol ag y chwareua y pysgodyn yn y môr. Siaradai yn fynych ar ddull damhegol, a byddai yn sicr o gael sylw, ac yn lled sicr hefyd o daro ar ben yr hoel, pa un bynag ai yn y cylch cymdeithasol yn mysg ei gymydogion, ai mewn cyfarfodydd cyhoeddus, y digwyddai iddo fod yn siarad. Mewn dwyn allan wirionedd o bethau cyffredin, ar ddull gwreiddiol, hollol o'i eiddo ei hun, saif yn sicr yn rhestr dynion athrylithgar.

Nid yn unig dysgai wirionedd trwy ddameg ac alegori; yr oedd yn hoff iawn hefyd o adrodd hanesion, er cyraedd yr un