Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nôd. Adroddai hanesynau yn ddibaid. Yr oedd mil o'r rhai hyn yn ei gof, fel tarianau Dafydd frenin yn y Tŵr. Adroddodd lawer o honynt drosodd a throsodd, mae'n wir, yn ei oes, ond byddai ambell un newydd yn dyfod allan o'r tŵr hyd y diwedd. Yn bur agos i ddiwedd ei oes, adroddai mewn cyfarfod cyhoeddus hanesyn tarawiadol iawn i egluro y mater yr oedd yn siarad arno. Dywedwyd wrtho na chlywyd mo hono yn adrodd yr hanesyn hwnw o'r blaen, a gofynwyd iddo yn mha le yr oedd wedi ei gael. Ei unig ateb oedd, "Enough of old store in Wynstay." Trysorodd yr hanesion i'w gof, cadwodd hwy yn ei gof, a'r syndod oedd y medrai eu cael ar y funyd i ateb y pwrpas fyddai ganddo mewn golwg. Byddai llawer o olion bore oes i'w canfod yn yr hanesynau a adroddid ganddo. Trwy adrodd ystori, modd bynag, y cyrhaeddai ef ei uchelbwynt wrth siarad, pa le bynag y siaradai, a pha beth bynag fyddai y mater. Ac yn hynyma nid oedd mo'i fath. Nis gellir ei gyffelybu am adrodd stori i ddim yn well nag i ddyn yn bwrw maen i lawr y goriwaered. Byddai yn sicr o allu rhoddi tro i'r maen ar i lawr, a byddai mor sicr a hyny o'i anfon i ben ei siwrna.

Y mae eisoes amryw o'i ddywediadau a'i hanesion wedi eu crybwyll. Amcenir rhoddi amryw o honynt eto yn y benod hon. Byddai yr hen bregethwr sylweddol a gafaelgar, y Parch. Foulk Evans, Machynlleth, yn pregethu yn fynych ya Mhennal. Ceid ganddo ef asgwrn i'w gnoi yn mhob pregeth. Un tipyn yn oeraidd ydoedd hefyd yn ei ffordd. Wrth ysgwyd llaw, estyn ei ddau fys a waai ef, ac nid ei law. Ar ddiwedd cyfarfod pregethu rywbryd yn Mhennal, cychwynai Foulk Evans adref i Machynlleth, ar ol swper, yr hwn a gafwyd yn nhy David a Mary Rowland, a chan estyn ei ddau fys (yn ol ei arfer) i bawb wrth ffarwelio, meddai, "'Rwy'n meddwl yn siwr ein bod yn dyfod yn fwy cynhesol wrth rwbio fel hyn yn ein gilydd." "Wyddoch chwi i beth y byddaf fi yn eich cyffelybu