Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

buasai yn myn'd at ei droed o ar unwaith, hwyrach mai cic a gawsai gan y ceffyl. Ydych chwi yn ei medru hi gyda'r eglwysi yma? Ydych chwi yn peidio myn'd at droed y ceffyl yn rhy fuan?"

Mae y ty a'r siop lle y preswylient gynt yn Mhlwyf Towyn, yn union ar y terfyn, yr afon rhwng y ddau blwy yn rhedeg heibio talcen y ty, a'r bont sy'n ei chroesi wrth ymyl drws y ffrynt. Wedi croesi y bont yr ydys ar unwaith yn Mhlwyf Pennal. Llawer gwaith y croesodd ef y bont yn y bore cyn brecwast, a dywedai gyda sirioldeb wedi d'od yn ol i'r ty, "'Rydw i wedi cerdded part o ddau blwy' heddyw'n barod." West End y galwai ef y lle pan oedd yno'n byw. Yn awr, trwy arfer y pentrefwyr, gelwir y lle yn Siop y Bont.

Mae y ty hwn yn ffrynt darn helaeth o'r pentref, yn wynebu ar gapeli hardd y Methodistiaid a'r Annibynwyr. Oddiar bont y pentref ymddengys y ddau gapel hyn mor agos fel y gellid tybio eu bod bron ochr yn ochr a'u gilydd. Cynhelid yma Gyfarfod Misol unwaith gan y Methodistiaid—y Cyfarfod Misol olaf i'r Parch. David Davies, Abermaw, fod ynddo yn y lle. Gan fod y Methodistiaid yn gwneuthur rhyw gyfnewidiad yn eu capel, ac wedi methu ei orphen mewn pryd, trwy garedigrwydd enwad yr Annibynwyr, cynhaliwyd holl gyfarfodydd y Cyfarfod Misol yn eu capel hwy. Pregethai y Parch. David Davies, yn olaf y noson olaf, yn nodedig o afaelgar, oddiar y geiriau, "Pa beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe." Yr oedd ef a Dafydd Rolant wedi cytuno â'u gilydd i dala diolch i gyfeillion caredig yr Annibynwyr am fenthyg eu capel Meddai Mr. Davies ar dop ei lais, gyda bod y weddi drosodd, "Wel, dowch Mr. Rowland, diolchwch am y capel yma."

Cyfododd yntau ar ei draed, ac fel hyn y dywedai,-"Yr ydan ni yn ffrinda mawr yn Mhennal yma bob amser. Pan oeddym ni yn byw yn y siop acw, ar gyfer y capel yma, fe fyddai pobl ddieithr a ddelent i'r pentra yn troi atom ni, ac yn