Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arferai adrodd gyda'i ddawn dihafal hanes hen Gymro gwledig yn myn'd i Lundain i edrych am ei ferch. Yr oedd golwg hynod o wladaidd a Chymroaidd ar yr hen ŵr—dillad llwydion o frethyn cartref, clôs pen glin, a'i ddiwyg oll yn ei osod allan fel un o ganol un o gymoedd Cymru. Aeth ei ferch i'w gyfarfod ar ei ddyfodiad i Lundain. Yr oedd hi yn ei weled yn rhy Gymroaidd a gwladaidd ei wisg i'w chanlyn hi yn y fath le a Llundain, ac aeth ag ef i ryw fasnachdy i gael suit o ddillad newyddion. A thra 'roedd y ddau yn myn'd gyda'u gilydd ar hyd y strydoedd i chwilio am y lle pwrpasol i gael y dillad, daethant heibio i siop fawr a gwydrau mawrion yn ei ffenestri, a gwelai yr hen ŵr adlewyrchiad o hono ei hun yn y ffenestr. Safodd ar gyfer y ffenestr, gan ddywedyd wrth ei ferch, "Giaist i, dyma hen Gymro tebyg iawn i mi, gad i mi fyn'd i ysgwyd llaw â fo," ac estynai ei law ato. "O," meddai, "mae mwy o faners ynw i o lawer na hwn. Yr ydw i yn estyn fy llaw dde iddo fo, ac yntau yn estyn ei law chwith ataf finau."

Byddai ganddo stôr dda o helyntion carwriaethol i'w hadrodd, pan welai ei gyfle. Nid oes dim byd yn cymeryd yn well gyda'r natur ddynol, yn enwedig gyda phobl ieuainc. Gweithiai ef a'i dad, Hugh Rolant, un tro yn nhy un o'r chwiorydd nad oedd erioed wedi priodi, ac yr oedd wedi cyrhaedd oedran pur fawr. Meddai Hugh Rolant wrthi un diwrnod, "Mi gawsoch chwithau hon a hon, gynygion ar briodi rai gweithiau yn eich oes?"

"Do," oedd yr ateb, "do, mwyn dyn, lawer iawn o gynygion—'rydw'n siwr, pe bawn i yn eu cyfri nhw, eu bod yn bedwar igian ond un."

Yr oedd hen frawd o gwr Sir Drefaldwyn, o'r enw Rhysyn y Clogsiwr, wedi bod yn briod dair gwaith, ac yr oedd yn chwilio am y bedwaredd. Honai ei fod yn rhyw berthynas pell i wr Dolgelynan, ffermdy yn Mhlwyf Pennal, ar lan Afon