Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymlaen yn lled bell; y cenhadon o'r Cyfarfod Misol wedi bod yn cymeryd llais yr eglwys, a'r llais yn unol dros ei gael. Yn y cyfwng hwn, daeth galwad i'r dyn ieuanc o eglwys arall, a thueddai yntau erbyn hyn, oherwydd rhyw resymau, i dderbyn yr ail alwad.

Clywodd Dafydd Rolant am yr hanes, a daeth a'i gyffelybiaeth allan i'w egluro. "'Rwy'n cofio'n dda," meddai, "er's llawer blwyddyn yn ol, yr oedd gan ddyn yn Mhennal yma ddwy gariad yn Abergynolwyn, ac ar ben y mynydd rhwng yma ac Abergynolwyn y byddai yn penderfynu at p'run o'r ddwy yr a'i. A'i ffordd o benderfynu ar ben y mynydd fyddai gosod ei ffon ar phen, ac yn ol y cyfeiriad y syrthiai y ffon y cymerai yntau ei daith i fyned at wrthddrych ei serch. Un tro, modd bynag, nid oedd y ffon wedi syrthio yn hollol unol â'i deimlad. Cyfododd hi i fyny drachefn, gosododd hi ar ei phen yr ail waith, a chan roddi ychydig o osgo ynddi tuag at breswylfod yr hon a hoffai yn nyfnder ei deimlad dywedai, "Barr Toss."

Arferai adrodd am gyfarfyddiad, flynyddau pell yn ol, amryw o'r rhyw deg yn y pentref, y rhai oeddynt wedi cyraedd ymlaen mewn dyddiau. Pwnc yr ymddiddan yn eu plith ydoedd y mater o briodi. A digwyddai i ryw un digon direidus o'r rhyw arall fod yn gwrando y siarad rhyngddynt, heb yn. wybod iddynt hwy. A daeth yr hanes allan trwy hwnw. "Welais i riodsiwn beth," meddai y naill wrth y llall, "na bai rhyw un yn dyfod bellach. Hwyrach, pan ddaw gwr Dolglynan yn overseer, y gall ef gael rhyw un i ninau."

Yr oedd ganddo hanesyn da iawn, amcan yr hwn ydoedd dangos mor hwyrfrydig ydyw rhai pobl i dderbyn y gwir, ac o'r tu arall, mor chwanog ydynt i gredu yr hyn nad yw wir. Adroddid yr hanes mewn ffordd o ymddiddan rhwng bachgen ieuanc o forwr a'r hen wraig ei nain.