Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dywed i mi, fy machgen i," ebe yr hen wraig, "beth oedd y peth rhyfedda welaist ti yn dy deithiau ar hyd y moroedd yna?"

"Wel," atebai y bachgen, "y peth rhyfedda welais i ar y môr, oedd gweled pysgod yn ehedeg."

"Gweled pysgod yn hedeg? Naddo erioed. Choeliaf fi ddim peth fel yna, dywed rywbeth sy'n debyg o fod yn wir."

"Wel ynte, mi welais beth arall rhyfedd iawn. Pan oeddym yn croesi y Mor Coch unwaith fe ddarfu i ni fwrw angor, ac wrth godi yr angor i fyny fe ddaeth olwyn fawr gyda'r angor, a beth oedd hi ond un o olwynion cerbydau Pharaoh."

Dyna rywbeth tebyg i wir," meddai yr hen wraig, "mi goeliaf fi hynyna."

Yr oedd ei wraig ef ei hun yn un mor hynod o garedig, a chroesawgar, a siaradus, pan fyddai rhywun dieithr wedi talu ymweliad â'r teulu, byddai y sgwrs yn para yn bur hir, a gwaith anhawdd fyddai ymadael. Ebe Dafydd Rolant ar adegau felly, "Y mae lle yn Sir Drefaldwyn o'r enw Stay Little, ond stay long ydi hi yma."

Mewn ymddiddan yn y teulu, tra 'roedd gweinidog dieithr yn bresenol, adroddid hanesyn gan Mrs. Rowland, ac yn ei hadroddiad amgylchynai hi gryn lawer ar y cyrion, gan fod yn bur fanwl ar hyd yr amgylchoedd; ac yr oedd yn amlwg fod Dafydd Rolant yn lled anesmwyth eisiau iddi gyraedd y pwynt. O'r diwedd, methodd a dal yn hwy, ataliodd Mrs. Rowland dan wenu, a dywedodd, "Y mae Mari yn wraig ragorol iawn, ond mae hi yn bur debyg i'r Puritaniaid; y mae'n rhaid myn'd trwy lawer iawn o bridd cyn y dowch chwi at y perl."

Cychwynai ysgrifenydd yr hanes hwn un diwrnod i Gyfarfod Misol Machynlleth. Yr oedd hyn prydnawn cyntaf y Cyfarfod Misol, bwriadai yntau fyned yno bore dranoeth. Ar y pryd y cychwynai, gwelai Dafydd Rolant yn yr ardd, yn ymgeleddu llety y mochyn, a dywedai wrtho, os clywai rywrai yn