Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

holi am dano, y dywedai wrth bawb yn mha le yr oeddis wedi ei weled ddiweddaf. Ebe yntau rhag y blaen, "Y cyfiawn fydd ofalus am fywyd ei anifail."

Byddai ar hyd ei oes yn hoff o rai geiriau Saesoneg. Deallai lyfr Saesoneg yn weddol; medrai gario ymlaen drafodaeth yn yr iaith Saesoneg, ac weithiau gwnelai ddefnydd prydferth o ambell i air Saesoneg. Ond llofruddio yr iaith y byddai wrth ei siarad hi. Ni byddai gwneuthur camgymeriad mewn gair neu frawddeg ychwaith, yn peri blinder o gwbl iddo ef; yn hytrach fel arall, rhoddai ambell i gamgymeriad a wnelai ddifyrwch mawr iddo. Felly yn arbenig pan y gwnaeth gamgymeriad rhwng y gair introducio a'r gair reducio. Yr oedd gwr ieuanc dymunol ac addawol yn dyfod yn ysgolfeistr i'r British School yn yr ardal, ar derfyn ei efrydiaeth yn Ngholeg Normalaidd Bangor. Yr oedd y pryd hwnw yn llai na'r size cyffredin mewn taldra corfforol. Gan ei fod yn hollol ddieithr, daeth i'w le newydd rhyw dridiau cyn dechreu yr ysgol ddiwedd holidays y Nadolig. Aeth David Rowland ag ef i Talgarth Hall, i'w introdusio i Mr. Thruston—y boneddwr hwnw oedd cadeirydd ac ysgrifenydd managers y British School—ac wedi dweyd eu neges yn dyfod i'r palas, ebe David Rowland, "I brought him here, Sir, to reduce him to you." "Well, indeed, David," ebe y boneddwr, "he is little enough now, I don't know what he will be when you reduce him." Yr oedd Mr. Thruston ac yntau yn gydnabyddus iawn o'u mebyd, a deallodd y boneddwr ar unwaith mai camgymeriad oedd y gair.

Galwodd merch ieuanc yn Llwynteg un diwrnod, yr hon oedd yn dra chydnabyddus â Mr. a Mrs. David Rowland, gyda'i darpar wr—Mr. Green, boneddwr o Lundain. Wedi gwneuthur sylwadau cartrefol ar briodi, a sut i fyw ar ol priodi, ac felly yn y blaen, dywedai David Rowland wrth y gwr ieuanc cyn ymadael, "Yr wyf fi yn eich hoffi yn fawr iawn, Syr,