Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffrynt, gwelent Dafydd Rolant ar ben coeden yn yr ardd, yn hel eirin. Croesasant ar eu hunion ato, heb droi i'r ty. Ac ebe fe wrthynt cyn symud o'i le, "Sut yr ydach chwi, Mr. Meredith? Sut yr ydach chwi, Mr. Stephens bach? Yn wirionedd ina, welais i rodsiwn beth; or uchled 'rydw i wedi myn'd, 'dydw i ddim yn rhy uchel eto i siarad â dynion fel chwi."

Gyda llawer o afiaeth un diwrnod desgrifiai ddwy wraig dalentog yn siarad. Deuai y naill gyffelybiaeth ar ol y llall at ei wasanaeth ar y funyd, yn y desgrifiad hwn. Tranoeth dydd Nadolig 1887, yr oedd gwraig siriol a siaradus yn Llwynteg i dê. Yr oedd pregethwr yn aros yn y ty, mewn ystafell arall. Clywai y pregethwr swn y siarad, ac adnabyddai y lleisiau, ond dim ychwaneg. Gyda gwyll y nos, sef rhwng tywyll a goleu, aeth y pregethwr i'r gegin. Yr oedd y wraig ddieithr erbyn hyn wedi ymadael, Eisteddai Dafydd Rolant ar ei ledorwedd ar y bwrdd, ac eisteddai gwraig y ty yn y gadair siglo o flaen y tan. Meddai y pregethwr, "Yr oeddwn yn clywed llawer iawn o siarad yn y ty; a fu yma lawer o bobl ddieithr?"

"Pobol ddieithr?" ebe Dafydd Rolant; "fu yma ddim ond un! Ni chlywsoch chwi ffasiwn siarad a'ch clustia 'rioed! Ond yr oedd ganddi glochydd iawn yn Mari yma. 'Rwy'n cofio'n dda clywed am ryw fachgen mawr oedd yn Cwmffernol. 'Roedd y bachgen wedi ei fagu mewn Cwm unig, 'rioed wedi bod oddi yno, nac wedi gwel'd fawr neb ond y clochydd—byddai hwnw yn myn'd yno weithiau, ac yn cael ei alw 'Fewyrth Shon' Ond rywbryd cafodd y bachgen ddillad nwddion, ac aeth gyda'i fam i'r Eglwys ar y Sul. Wedi myn'd adre, adroddai yn ei wiriondeb y pethau a welodd ac a glywodd yn yr Eglwys. 'Yr oedd yno,' meddai 'ryw ddyn tal, mewn gwisg wen at ei draed, yn ffraeo ffraeo, ffraeo, o hyd. Ond 'roedd fewyrth Shon y clochydd yn ei ateb o yn iawn.' Felly, 'roedd Mari yma yn glochydd iawn iddi hi."

"Beth oedd y pwnc oedd ganddynt?" gofynai y pregethwr.