Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Pwnc?" meddai, "Y peth tebyca' welsoch chwi 'rioed i Almanac Caergybi." Ac aeth i drôr y bwrdd i geisio yr Almanac, ac agorodd ef. "Dyma fo'r pwnc," meddai.

Heddyw,—Tywydd teg.
Heddyw,—Brwydr Waterloo.
Heddyw,—Tywysog Cymru yn priodi.
Heddyw,—Gwynt a gwlaw yma a thraw.

Peth fel yna oedd ganddynt yn ei siarad."

Ymddengys y byddai y chwedl ganlynol yn cael ei chredu gan hen bobl yr ardal. Unwaith yn unig y clywodd yr ysgrifenydd ef yn ei hadrodd, a hyny yn ystod ei saldra diweddaf. Adroddai hi mewn llais clir, uchel, meistrolgar, fel un wedi ymberffeithio yn y gelfyddyd o adrodd chwedl. Ei hystyr ydyw, dangos fel y mae un weithred yn nechreu oes dyn yn effeithio ar yr oes i gyd. Yr oedd un o hen frodorion y gymydogaeth a chyfaill mawr iddo ef yn bresenol yn yr ystafell pan yr adroddai y chwedl. Aethant yn hamddenol dros lawer o helyntion yr amser gynt, a daethant ar draws Arthur Evan, y crydd. "Yr oedd Arthur yn fwy crefyddol na'r hen bobl i gyd," meddai, "nid oedd gan neb ddim doubt am grefydd Arthur Evan. Ond yr oedd rhywbeth yn surllyd iawn yn ei olwg hefyd—yr oedd ei drwyn yn gam." A phwynt y stori oedd, dangos paham yr aeth i edrych mor surllyd ar hyd ei oes.

"Plentyn heb ddim cartref oedd Arthur," meddai, "a gosodwyd ef i'w fagu gan y plwy gyda rhyw haner Saesnes, oedd yn byw mewn ty o'r enw Bettws, yn agos i bentref y Cwrt. Nid oedd y bachgen yn prifio fel bechgyn eraill. Cynghorodd rhywrai y Saesnes i wneuthur llymru iddo, a rhoddi lwmp o ymenyn ynddo. Rhoddodd hithau fowliad o hwn o flaen y plentyn, ond nis gallai y plentyn mo'i fwyta. Dywedai y Saesnes yn dra awdurdodol uwch ei ben, bwyta fo, Arthur.' Ac